Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Ffurflenni enwebu
Ymgeiswyr rhestr plaid
Ystyrir bod plaid gofrestredig a phob ymgeisydd a restrir ar y rhestr plaid wedi'u henwebu'n ddilys os ydych wedi derbyn yr ernes angenrheidiol a’r ffurflenni canlynol wedi’u llenwi, erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais:
• papur enwebu plaid1
• tystysgrif sy’n caniatáu defnydd o enw’r blaid neu ddisgrifiad cofrestredig sy’n cynnwys cais i ddefnyddio un o arwyddluniau cofrestredig y blaid (os dymunir)2
• ffurflen cyfeiriad cartref ar gyfer pob ymgeisydd ar y rhestr plaid3
• ffurflen cydsynio ag enwebiad ar gyfer pob ymgeisydd ar y rhestr plaid4
Gall y blaid cyflwyno rhestr o hyd at 8 ymgeisydd i sefyll mewn etholaeth.
Rhaid i unrhyw blaid sy’n sefyll yn yr etholiad fod wedi’i chofrestru ar gofrestr pleidiau gwleidyddol y Comisiwn yn https://search.electoralcommission.org.uk/Cymraeg/ a chael ei rhestru fel un y caniateir iddi gyflwyno ymgeiswyr yng Nghymru.5
Ymgeiswyr unigol
Ystyrir bod ymgeisydd unigol wedi'i enwebu'n ddilys os ydych wedi derbyn yr ernes a’r ffurflenni canlynol wedi’u llenwi, erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais:
• ffurflen enwebu unigol6
• ffurflen cyfeiriad cartref7
• ffurflen cydsynio ag enwebiad8
Cynhyrchu papurau enwebu
Gellir cynhyrchu ffurflenni enwebu yn Gymraeg a Saesneg yn unig, ar y ffurf ragnodedig neu ffurf debyg ac nid mewn fformatau nac ieithoedd eraill.9
Ar gais, mae’n rhaid ichi roi’r nifer angenrheidiol o bapurau enwebu i unrhyw berson.10
Dylid cynnwys gwybodaeth gydag unrhyw becynnau a anfonir allan, gan gyfeirio at y wybodaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu drwy e-bost neu ar-lein. Er enghraifft, gallech gynnwys geiriad sy’n nodi’n glir y gellir cyflwyno papurau enwebu yn electronig, ond yr unig adeg y cânt eu derbyn yw os yw'r cyflwyniad yn bodloni’r gofynion penodol fel y nodir yn y datganiad danfon electronig o ran ffurf a dull cyflwyno.
Rydym wedi cynhyrchu set o bapurau enwebu, sy’n cynnwys y ffurflenni y gallwch eu rhoi i unrhyw un sy’n gofyn amdanynt.
Nid oes rhaid i ymgeiswyr unigol ac ymgeiswyr rhestr plaid ddefnyddio’r ffurflenni enwebu a gynhyrchwyd ac a gyflenwyd gennych chi11
, ond rhaid i’r ffurf fod fel y rhagnodir yn y ddeddfwriaeth neu ar ffurf debyg.
Rydym hefyd wedi cynhyrchu rhestr wirio enwebiadau sy’n nodi’r hyn sydd angen ichi ei ystyried a phethau penodol i gadw golwg amdanynt wrth benderfynu ar enwebiad.
Gallwch ddod o hyd i becynnau enwebu a rhestrau gwirio enwebiadau yn yr adran enwebiadau o’n tudalen adnoddau.
- 1. Atodlen 5, Rheol 6(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 5, Rheol 7, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 5, Rheol 8, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 5, Rheol 9, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 5, Rheol 76, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 5, Rheol 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 5, Rheol 8, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 5, Rheol 9, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 5, Rheol 5 a 6, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 5, Rheol 4(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Atodlen 5, Rheol 4(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 11