Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Cwblhau'ch ffurflen

Gelwir eich adroddiad ar wariant a rhoddion yn ‘ffurflen’.

Rhaid i'r asiant gwblhau'r ffurflen.

Dylai'r ffurflen gynnwys y canlynol ar gyfer pob eitem o wariant:

  • ar gyfer beth roedd y gwariant – er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
  • enw a chyfeiriad y cyflenwr
  • y swm neu'r gwerth
  • manylion pryd yr aed i'r gwariant a phryd y'i talwyd
  • manylion unrhyw symiau sydd heb eu talu neu y mae anghydfod yn eu cylch
  • anylion unrhyw wariant tybiannol, a datganiad o'i werth1
  • anfonebau neu dderbynebau ar gyfer unrhyw daliad o £20 neu fwy2
  • manylion unrhyw dreuliau personol3

Rhaid i'r rhan ymgyrch fer o'r ffurflen hefyd gynnwys manylion yr holl roddion dros £50 a dderbyniwyd ar ôl i chi ddod yn ymgeisydd ac unrhyw wariant ymgyrchu lleol awdurdodedig.4  Mae rhagor o wybodaeth am y manylion y mae angen i chi eu cofnodi yn  Gwariant ymgeiswyr a Rhoddion ymgeiswyr.

Rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant hefyd lofnodi datganiad bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth a'u cred.5  Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybodaeth lawn a chywir am wariant ymgeisydd. 

Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol.6

Ffurflenni y bydd eu hangen arnoch:

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Gorffennaf 2024