Gellir herio canlyniad etholiad Senedd y DU drwy ddeiseb etholiadol.
Cyflwyno deiseb etholiadol
Dim ond rhai pobl a gaiff gyflwyno deiseb etholiadol, a dim ond o dan amgylchiadau arbennig.
Gall deiseb etholiadol gael ei chyflwyno gan y canlynol:1
rhywun sy'n honni ei fod yn ymgeisydd yn yr etholiad, neu
rywun sy'n honni bod ganddo hawl i gael ei ethol yn yr etholiad, neu
etholwr (nad yw'n etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw) a oedd â hawl i bleidleisio yn yr etholiad (er nad oes angen iddo fod wedi pleidleisio)
Y seiliau a ganiateir dros ddeiseb yw bod y canlynol wedi digwydd:2
etholiad amhriodol, neu
canlyniad amhriodol
Ceir proses farnwrol ar wahân ar gyfer herio etholiad AS ar y sail ei fod wedi'i anghymwyso ar y pryd neu yn y gorffennol o dan Ddeddf Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin 1975 (fel u'i diwygiwyd). Yn yr achos hwnnw, gellir gwneud cais i'r Cyfrin Gyngor am ddatganiad o'r fath (ar yr amod nad oes deiseb yn yr arfaeth na bod Gorchymyn Tŷ'r Cyffredin i anwybyddu'r anghymhwysiad wedi'i wneud).
Mae'n rhaid i'r Aelod y gwneir cwyn ynglŷn â'i ethol fod yn wrthapeliwr i'r ddeiseb.3
Os bydd y ddeiseb yn cwyno am ymddygiad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu ei staff yn ystod yr etholiad, rhaid bod y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn atebydd hefyd.4
Fel rheol, rhaid i ddeiseb gael ei chyflwyno o fewn 21 diwrnod calendr i ddyddiad dychwelyd yr writ5
(sef y diwrnod ar ôl yr etholiad yn y rhan fwyaf o achosion) a gellir ei chyflwyno unrhyw bryd hyd at 12 hanner nos ar y diwrnod olaf fan bellaf. Fodd bynnag, os bydd y ddeiseb yn cwyno am arferion llwgr neu anghyfreithlon sy'n ymwneud â thalu arian neu roi math arall o wobr, neu arfer anghyfreithlon sy'n ymwneud â gwariant etholiadol, gellir caniatáu mwy o amser.
Ar gyfer unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â deisebau etholiadol, yn cynnwys cadarnhau'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno deiseb etholiadol, dylech gysylltu â:
Yng Nghymru a Lloegr:
The Election Petitions Office Room E105 Royal Courts of Justice Strand London WC2A 2LL
Mae costau yn gysylltiedig â deiseb etholiadol. Os ydych yn ystyried cyflwyno deiseb etholiadol, rydym yn argymell yn gryf y dylech gael cyngor cyfreithiol annibynnol.