Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Beth sy'n digwydd i'r gwaith papur ar ôl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi?
Yng Nghymru a Lloegr, y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n cadw'r holl ddogfennau etholiadol yn ddiogel.1
Yn yr Alban, y Swyddog Canlyniadau sy'n eu cadw.2
Mae'r rhan fwyaf o ddogfennau ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio. Nodwch nad yw papurau pleidleisio ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.
Archwilio a darparu'r cofrestrau a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol wedi'u marcio3
Mae'r cofrestrau etholiadol a'r rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio yn dangos pwy sydd wedi cael papur pleidleisio, pwy sydd wedi dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy'r post, a phwy sydd wedi trefnu bod pleidlais drwy ddirprwy yn cael ei bwrw ar ei ran.
Gallwch archwilio neu gael copïau o'r gofrestr etholwyr a'r rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio ar ôl yr etholiad os gwnewch gais ysgrifenedig. Yng Nghymru a Lloegr, rhaid gwneud y cais i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol. Mae'r manylion cyswllt ar gael ar ein gwefan.
Yn yr Alban, rhaid gwneud y cais i'r Swyddog Canlyniadau. Gallwch gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau drwy'r cyngor lleol.
Noder mai dim ond at ddibenion ymchwil neu ddibenion etholiadol y gallwch ddefnyddio'r wybodaeth a geir o'r dogfennau hyn.
Rhaid i'r cais am archwiliad nodi4
:
- pa ddogfennau y gwneir cais amdanynt
- at ba ddibenion y defnyddir y wybodaeth mewn unrhyw ddogfen
- pan fo'r cais ar gyfer archwilio'r gofrestr neu'r rhestrau wedi'u marcio, unrhyw reswm pam na fyddai archwilio'r gofrestr lawn neu'r rhestrau heb eu marcio yn ddigon at y diben hwnnw
- pwy fydd yn archwilio'r dogfennau
- y dyddiad yr hoffech archwilio'r dogfennau
- a fyddai'n well gennych archwilio'r dogfennau ar ffurf argraffedig neu ar ffurf data
Caiff archwiliadau eu cynnal dan oruchwyliaeth a byddant yn rhad ac am ddim. Ni fyddwch yn gallu mynd â chopïau, ond gallwch wneud nodiadau â llaw.
Rhaid i'r cais nodi'r canlynol5
:
- pa gofrestr neu restrau wedi'u marcio (neu'r rhan berthnasol o'r gofrestr neu'r rhestrau) y gwneir cais amdani/amdanynt
- a yw'r sawl sy'n gwneud cais am gael copi argraffedig o'r cofnodion neu'r rhestrau neu gopi ar ffurf data
- at ba ddibenion y defnyddir y gofrestr neu'r rhestrau wedi'u marcio a pham na fyddai darparu neu brynu copi o'r gofrestr lawn neu restrau heb eu marcio yn ddigon i gyflawni'r diben hwnnw
Codir ffi o £10 ynghyd â £2 am fersiwn argraffedig a £1 am fersiwn ddata fesul 1,000 o gofnodion am y ddogfen y gwneir cais amdani.6
Noder ar ôl 12 mis, caiff y dogfennau hyn, a gedwir gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol, eu dinistrio, oni fydd gorchymyn llys yn nodi'n wahanol.7
O dan ddeddfwriaeth diogelu data bresennol, ni chaiff data personol a brosesir at unrhyw ddiben eu cadw am fwy nag sydd ei angen at y diben hwnnw. Os byddwch yn gwneud cais am y wybodaeth a restrir uchod ac yn ei derbyn, unwaith y bydd diben casglu'r data hyn wedi darfod, bydd angen i chi ystyried a oes rheswm dros gadw'r data hynny. Os nad oes rheswm, dylech sicrhau bod unrhyw ddata a gedwir yn cael eu dinistrio'n ddiogel.
Dim ond yn ystod yr amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu y gellir eu darllen, a dim ond gan ymgeiswyr, eu hasiant etholiad, eu cynigydd a'u heilydd.
Archwilio dogfennau etholiadol eraill8
Gallwch archwilio dogfennau etholiadol eraill, ond ni fyddwch yn cael gwneud unrhyw nodiadau na chymryd copïau o'r dogfennau hyn. Yr unig ddogfennau na ellir eu harchwilio yw:
- y papurau pleidleisio
- y rhestrau rhifau cyfatebol
- y tystysgrifau sy'n caniatáu i staff gorsafoedd pleidleisio bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio y maent yn gweithio ynddi
- y Rhestr o Bapurau Pleidleisio a Wrthodwyd (dim ond ar gais ar ôl iddo gael ei wrthod y gellir datgelu gwybodaeth o'r rhestr hon ar gais i'r etholwr perthnasol neu'r dirprwy)9
Ar ôl 12 mis, caiff yr holl ddogfennau etholiadol, a gedwir gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol, eu dinistrio, oni fydd gorchymyn llys yn nodi'n wahanol.10
Archwilio ffurflenni gwariant etholiadol11
Caiff ffurflenni gwariant a datganiadau eu cadw gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Gellir archwilio cofnodion a datganiadau gan unrhyw berson ar ôl iddynt gael eu cyflwyno. Gellir hefyd gwneud copïau am ffi o 20c yr ochr.
Cedwir ffurflenni gwariant a datganiadau am ddwy flynedd. Gallwch ofyn iddynt gael eu dychwelyd atoch neu'ch asiant ar ddiwedd y cyfnod hwn. Os na fyddwch chi na'ch asiant am eu cael yn ôl, caiff y ffurflenni gwariant a'r datganiadau eu dinistrio.
- 1. Rheol 55 Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 55 a 58(2) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliadau 117 ac 118 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliadau 117 ac 118 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 118(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 118(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 117(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 117(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 120(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 120(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheol 57(1) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Rheoliad 118(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 118(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Adran 32 Rheoliadau Adnabod Pleidleiswyr 2022 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Rheol 57(1) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. A.89 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 11