Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Terfynau amser

Ffurflenni a datganiadau

Ar ôl yr etholiad, dylai'r asiant sicrhau'r canlynol:

  • rhaid i bob anfoneb ddod i law o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan1    
  • rhaid i bob anfoneb gael ei thalu o fewn 28 diwrnod calendr ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan2   

Rhaid i'r asiant gyflwyno'r canlynol i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol):

  • ffurflen gwariant etholiad sy'n nodi manylion gwariant a rhoddion ymgyrch yr ymgeisydd
  • datganiad yn cadarnhau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred, ei chyflyno i Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)

a hynny o fewn 35 diwrnod calendr ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan3  

Nodwch, os bydd y dyddiad cau ar gyfer unrhyw un o'r uchod ar benwythnos neu ŵyl y banc, bydd y dyddiad cau yn symud i'r diwrnod gwaith nesaf.4  Mae hyn wedi'i gynnwys yn y cyfrifiadau terfynau cau canlynol.

 Dyddiad hwyraf i
Y dyddiad y datgelir y canlyniad   Derbyn eich anfonebauTalu eich anfonebauCyflwyno eich ffurflen a'ch datganiad asiant
4 Gorffennaf 202425 Gorffennaf 20241 Awst 20248 Awst 2024
5 Gorffennaf 202426 Gorffennaf 20242 Awst 20249 Awst 2024
6 Gorffennaf 202429 Gorffennaf 20245 Awst 2024 (6 Awst yn yr Alban)12 Awst 2024

Rhaid i'r ymgeisydd ddarparu datganiad ysgrifenedig o'i dreuliau personol yn yr ymgyrch fer i'w asiant o fewn 21 diwrnod i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan.5

Rhaid i'r ymgeisydd hefyd anfon datganiad at y Swyddog Canlyniadau yn cadarnhau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred. Rhaid gwneud hyn o fewn saith diwrnod gwaith i gyflwyno'r ffurflen.6   

Os bydd yr ymgeisydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig pan fydd angen cyflwyno'r datganiad, caiff y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r datganid ei ymestyn i 14 diwrnod ar ôl iddo ddychwelyd.7

Rhaid i chi gyflwyno ffurflen, hyd yn oed os nad ydych wedi gwario unrhyw arian.8  Gelwir hwn yn ddatganiad ‘dim trafodion’.

Mae canlyniadau os na fyddwch yn dychwelyd ffurflenni gwariant, ac mae'r rhain wedi'u nodi yn ‘Beth fydd yn digwydd os na chaiff ffurflen gwariant neu ddatganiad eu cyflwyno?

Gwariant pleidiau gwleidyddol

Rhaid i bleidiau gwleidyddol sy'n sefyll mewn etholiadau cyffredinol Senedd y DU hefyd roi gwybod i ni am fanylion eu gwariant ar godi arian a gwariant ymgyrchu. Ceir gwybodaeth fanwl yn ein canllawiau i bleidiau.

Anfonebau sy'n dod i law neu sy'n cael eu talu ar ôl y terfynau amser

Rydym yn galw hawliadau (anfonebau ar gyfer gwariant gan ymgeisydd) nas derbynnir gan yr asiant etholiad o fewn y terfyn amser o 21 diwrnod yn hawliadau heb eu talu. 

Ni ellir yn gyfreithlon dalu hawliadau heb eu talu oni cheir gorchymyn llys yn caniatáu talu'r hawliad.9  Gall fod yn drosedd talu hawliad heb ei dalu heb orchymyn llys.10

Rydym yn galw hawliadau (anfonebau) a gyflwynwyd o fewn y terfyn amser o 21 diwrnod ond nad ydynt wedi cael eu talu o fewn y terfyn amser o 28 diwrnod yn hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch.

Ni ellir yn gyfreithlon dalu hawliadau y mae anghydfod yn eu  cylch heb i orchymyn llys gael ei roi gyntaf yn caniatáu talu'r hawliad.11   

Rhaid rhoi gwybod am unrhyw hawliad sy'n cael ei dalu:

  • ar ôl y terfyn amser o 21 diwrnod i dderbyn anfoneb; neu
  • ar ôl y terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer taliadau,

ar ôl cais llwyddiannus i'r llys, ac ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno ffurflenni gwariant etholiad, yn ysgrifenedig i'r swyddog canlyniadau o fewn saith diwrnod i'w dalu, ynghyd â chopi o'r gorchymyn llys.12

Rhaid i chi hefyd anfon copi o'r Gorchymyn i'r Comisiwn Etholiadol. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2024