Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Cynnal uniondeb a diogelwch yr etholiad

  • Ymgeiswyr yw un o brif wynebau cyhoeddus yr etholiad, a bydd gwrthwynebwyr, y cyfryngau a phleidleiswyr yn craffu ar eich ymddygiad yn ofalus. 
  • Dylai pleidleiswyr allu ymddiried mewn ymgeiswyr i gydymffurfio â'r gyfraith a chynnal uniondeb a diogelwch y broses etholiadol.
  • Mae asiantiaid etholiad yn gyfrifol am eich ymgyrch ac maent yn gyfrifol am ei rheolaeth ariannol yn gyfreithiol. 
  • Dylech hefyd sicrhau bod eich cefnogwyr yn deall y gyfraith yn llawn ac yn gwybod beth i'w wneud i 
    • sicrhau y gall pleidleiswyr fwrw pleidlais heb unrhyw rwystr; ac y gall
    • ymgeiswyr eraill a'u cefnogwyr gymryd rhan yn ddiogel yn yr etholiad hwn heb brofi bygythiadau
  • Mae rhagor o wybodaeth am ganllawiau diogelwch i ymgeiswyr ac asiantiaid ar gael yn https://www.gov.uk/government/publications/security-guidance-for-may-2021-elections 
  • Dim ond os oes tystiolaeth o drosedd y gall yr heddlu ymchwilio i honiadau o dwyll etholiadol. Dylai honiadau neu gyhuddiadau gael eu cadarnhau bob amser pan gânt eu cyfeirio at yr heddlu. 
  • Dylech hefyd ystyried yr effaith ar hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd os gwneir honiadau anwir neu ddisylwedd ynghylch ymddygiad ymgyrchwyr eraill.
  • Nid yw'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) na'r Comisiwn yn rheoleiddio'r troseddau hyn. Ceir manylion am sut i roi gwybod am unrhyw honiadau yn ein canllawiau ar ‘Rhoi gwybod am honiadau o dwyll etholiadol’
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Rhagfyr 2024