Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Tabl o droseddau

Mae'r tabl canlynol yn dangos nifer o droseddau etholiadol a throseddau nad ydynt yn rhai etholiadol y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Dylech geisio eich cyngor cyfreithiol eich hun pan fydd angen.

Llwgrwobrwyo1  

Mae'r drosedd o lwgrwobrwyo yn cynnwys, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, roi unrhyw arian neu sicrhau unrhyw swydd ar gyfer unrhyw bleidleisiwr neu ar ei ran, er mwyn ysgogi unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio neu beidio â phleidleisio.
Anrhegu 2

Mae unigolyn yn euog o dretio os bydd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, naill ai cyn, yn ystod neu ar ôl etholiad, yn rhoi neu'n darparu unrhyw fwyd, diod, adloniant neu ddarpariaeth er mwyn dylanwadu'n llygredig ar unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio neu beidio â phleidleisio. 

Mae a wnelo tretio â bwriad llygredig – nid yw'n gymwys i letygarwch arferol.
 


Dylanwad gormodol  3
 

Bydd person yn euog o ddylanwad gormodol os bydd yn cyflawni gweithgaredd

  • am fod person wedi pleidleisio mewn ffordd benodol neu wedi peidio â phleidleisio
  • gan dybio bod person wedi pleidleisio mewn ffordd benodol neu wedi peidio â phleidleisio
    Y gweithgareddau hyn yw:
  • defnyddio neu fygwth defnyddio trosedd yn erbyn person
  • difrodi neu ddinistrio eiddo person neu fygwth gwneud hynny 
  • difrodi neu ddinistrio enw da person neu fygwth gwneud hynny
  • achosi colled ariannol i berson neu fygwth gwneud hynny
  • achosi anaf ysbrydol i berson neu roi pwysau ysbrydol diangen arno 
  • cyflawni unrhyw weithred arall sydd â'r bwriad o fygylu person
  • cyflawni unrhyw weithred sydd â'r bwriad o dwyllo person mewn perthynas â gweinyddu etholiad


Nid yw dylanwad gormodol yn ymwneud â mynediad ffisegol i'r orsaf bleidleisio yn unig. Er enghraifft, gallai taflen sy'n bygwth defnyddio grym er mwyn cymell pleidleisiwr i bleidleisio mewn ffordd benodol hefyd fod yn ddylanwad gormodol.

 

 

Trin dogfennau pleidleisio drwy'r post gan ymgyrchwyr gwleidyddol  4
 

Mae'n drosedd i ymgyrchwyr gwleidyddol drin papurau pleidleisio wedi'u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn aelodau agos o'u teulu neu'n rhywun y maent yn gofalu amdanynt.
Cambersonadu 5

Ystyr cambersonadu yw pan fydd unigolyn yn pleidleisio fel rhywun arall, naill ai drwy'r post neu'n bersonol yn yr orsaf bleidleisio, fel etholwr neu ddirprwy. 

Mae'r drosedd hon yn gymwys p'un a yw'r person a gaiff ei gambersonadu yn fyw, yn farw neu'n ffuglennol. Mae hefyd yn drosedd cynorthwyo, annog neu gaffael cambersonadu.

 

Datganiadau ffug

Ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd  6
 

Mae'n drosedd gwneud neu gyhoeddi datganiad ffeithiau ffug am gymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd er mwyn effeithio ar ethol ymgeisydd mewn etholiad.

Nid yw datganiadau anwir nad ydynt yn ymwneud â chymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd yn anghyfreithlon o dan gyfraith etholiadol, ond gellid eu hystyried yn enllibus neu'n athrodus.

Mae hefyd yn anghyfreithlon gwneud datganiad ffug bod ymgeisydd yn tynnu ei enw'n ôl er mwyn hyrwyddo neu gaffael ethol ymgeisydd arall.

 

Datganiadau ffug 

Mewn papurau enwebu  7

Mae'n drosedd gwneud datganiad ar bapur enwebu y gwyddoch ei fod yn ffug. Er enghraifft, os ydych yn gwybod eich bod wedi eich anghymhwyso rhag sefyll etholiad, ni ddylech lofnodi'r ffurflen cydsynio ag enwebiad.
Gwybodaeth gofrestru ffug a chais ffug i bleidleisio drwy'r post/drwy ddirprwy 8 Mae'n drosedd rhoi gwybodaeth ffug ar ffurflen gais cofrestru, pleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy. Mae gwybodaeth ffug yn cynnwys llofnod ffug
Cais ffug am bleidlais drwy'r post neu drwy ddirprwy 9 Bydd unigolyn yn euog o drosedd os bydd yn gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy er mwyn cael pleidlais nad oes ganddo'r hawl i'w chael neu er mwyn atal rhywun arall rhag pleidleisio.
Troseddau'n gysylltiedig ag aml-bleidleisio a phleidleisio drwy ddirprwy 10 Ceir amryw droseddau o ran aml-bleidleisio a phleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys unigolyn yn pleidleisio drwy'r post fel etholwr neu ddirprwy pan fo wedi'i anghymhwyso yn ôl y gyfraith rhag pleidleisio a chymell neu gaffael rhywun arall i gyflawni'r drosedd.
Torri'r gofynion o ran cyfrinachedd y bleidlais 11 Rhaid i bawb sy'n gysylltiedig â'r broses etholiadol neu sy'n bresennol mewn rhai digwyddiadau gynnal cyfrinachedd y bleidlais. Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn rhoi copi o'r gofynion swyddogol o ran cyfrinachedd i bawb sy'n bresennol yn yr achlysur agor pleidleisiau post neu gyfrif papurau pleidleisio, ac i asiantiaid pleidleisio.
Deunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch

Mae rhai troseddau'n ymwneud yn benodol â deunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch etholiadol. Rhaid i ddeunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch etholiadol argraffedig gynnwys argraffnod 12  a pheidio ag edrych fel cerdyn pleidleisio. 13  Rhaid i ddeunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch beidio â chynnwys datganiad ffug ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd arall ychwaith. 14

Nid yw'r Swyddog Canlyniadau na'r Comisiwn yn rheoleiddio cynnwys deunydd ymgyrchu ac ni allant wneud unrhyw sylwadau am gyfreithlondeb unrhyw ddeunydd etholiadol penodol y tu hwnt i'r hyn a nodir yn y canllawiau hyn.
 

Casineb hiliol

O dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986, mae'n drosedd cyhoeddi neu ddosbarthu deunydd bygythiol, ymosodol neu sarhaus y bwriedir iddo ysgogi casineb hiliol neu sy'n debygol o wneud hynny.

Yn yr Alban, mae Deddf Troseddau Casineb a Threfn Gyhoeddus (Yr Alban) 2021 yn berthnasol ochr yn ochr â Deddf Trefn Gyhoeddus 1986. Mae Deddf 2021 yn ymestyn y troseddau hyn i gynnwys grwpiau gwarchodedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Tachwedd 2024