Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Defnyddio'r gofrestr etholiadol a rhestrau pleidleiswyr absennol

Pan fyddwch wedi dod yn ymgeisydd yn swyddogol, cewch gopi o'r gofrestr etholiadol am ddim. 1  Cewch hefyd weld y rhestrau o bobl sy'n pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy ('y rhestrau o bleidleiswyr absennol') ar gyfer yr etholaeth rydych yn sefyll ynddi.

Caiff pleidiau gwleidyddol cofrestredig gopi o'r gofrestr etholiadol ar unrhyw adeg.

Mae dau fath o gofrestr

Gan ddefnyddio gwybodaeth gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr –

Y gofrestr etholiadol 

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol, fel sicrhau mai dim ond pobl gymwys a all bleidleisio. Fe'i defnyddir hefyd at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith, fel canfod trosedd (e.e. twyll), galw pobl i wasanaeth rheithgor, gwirio ceisiadau am gredyd.

Y gofrestr agored (a elwir yn gofrestr wedi'i golygu hefyd).

Mae'r gofrestr agored yn rhan o'r gofrestr etholwyr, ond ni chaiff ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, caiff ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau er mwyn cadarnhau enwau a chyfeiriadau. Gall etholwyr ofyn i'w henw a'u cyfeiriad beidio â chael eu cynnwys ar y gofrestr agored. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Rhagfyr 2023