Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus
Efallai y byddwch am ymgysylltu â'r cyhoedd mewn cyfarfodydd cyhoeddus, gan hyrwyddo eich syniadau ac ateb cwestiynau gan y gynulleidfa.
Mae Swyddog Cofrestru Etholiadol pob cyngor yng Nghymru a Lloegr, a Swyddog Priodol pob cyngor yn yr Alban, yn cadw rhestr o leoliad ac argaeledd ystafelloedd cyfarfod yn ei ardal. Bydd yn darparu'r rhestr hon i ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad (ac unrhyw un a awdurdodir ganddynt) o'r adeg y diddymir Senedd y DU.
Pan fyddwch yn ymgeisydd, cewch ddefnyddio ystafelloedd cyhoeddus sydd ar gael hyd at y diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio. 1
Dylech gysylltu â pherchennog y safle i drefnu ystafell, gan roi rhybudd rhesymol er mwyn lleihau'r risg y caiff y cais ei wrthod.
Ni chodir tâl am ddefnyddio'r ystafelloedd hyn, ond rhaid i chi dalu am unrhyw gostau yr eir iddynt, megis gwres, golau a glanhau, ac am unrhyw ddifrod i'r eiddo.
Nid yw eich hawl i ddefnyddio'r ystafell yn cynnwys yr oriau y defnyddir ysgol at ddibenion addysgol na phan fydd cytundeb wedi'i wneud i osod ystafell wedi'i wneud ymlaen llaw.