Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Asiantiaid pleidleisio

Cewch benodi pobl yn asiantiaid i fod yn bresennol yn y gorsafoedd pleidleisio.1

Beth yw gwaith asiant pleidleisio?

Er y gall asiant pleidleisio arsylwi'r bleidlais, nid oes rhaid iddynt fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio er mwyn i weithdrefnau pleidleisio a gweithdrefnau cysylltiedig gael eu cynnal. Mae gan asiantiaid pleidleisio sawl rôl bwysig i'w chwarae ar y diwrnod pleidleisio. Gallant:

  • fod yn bresennol yn eu gorsaf bleidleisio cyn iddi agor er mwyn gwylio'r Swyddog Llywyddu yn dangos y blwch pleidleisio gwag cyn ei selio
  • canfod cambersonadu ac atal pobl rhag pleidleisio fwy nag unwaith yn yr un etholiad (heblaw fel dirprwyon). Cambersonadu yw pan fydd unrhyw unigolyn yn pleidleisio fel rhywun arall, boed yn rhywun byw, marw neu ffug
  • bod yn bresennol pan fydd y Swyddog Llywyddu yn marcio papur pleidleisio ar gais etholwr sydd angen cymorth i farcio papur pleidleisio oherwydd anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu 
    rhoi gwybod i chi neu eich asiant etholiad am unrhyw weithgareddau amhriodol a chadw nodiadau, os oes angen, er mwyn rhoi tystiolaeth yn y llys
  • bod yn bresennol ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio pan gaiff y pecynnau amrywiol o ddogfennau eu selio 
  • atodi eu sêl i unrhyw becynnau a drefnir gan y Swyddog Llywyddu ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio, gan gynnwys y blwch pleidleisio. Ni ellir rhoi seliau asiantiaid pleidleisio ar flychau pleidleisio ar ddechrau'r cyfnod pleidleisio nac yn ystod y cyfnod hwnnw. 

Gallwch chi a'ch asiant etholiad hefyd wneud unrhyw beth y mae gan asiant pleidleisio hawl i'w wneud.2
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Gorffennaf 2024