Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Rhifwyr

Pobl sy'n sefyll y tu allan i fannau pleidleisio ac yn cofnodi rhifau etholwyr sydd wedi pleidleisio yw rhifwyr. Wedyn, gallant nodi cefnogwyr tebygol nad ydynt wedi pleidleisio a'u hannog i wneud hynny cyn i'r orsaf bleidleisio gau.

Nid oes gan rifwyr statws cyfreithiol ac mae gan bleidleiswyr yr hawl i wrthod rhoi unrhyw wybodaeth iddynt. Mae'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gyfrifol am y modd y cynhelir yr etholiad. Os yw gweithgareddau'r rhifwyr yn achos pryder iddynt, gallant ofyn i'r rhifwyr gydymffurfio â'r cod ymddygiad cytûn neu adael y man pleidleisio.

Rydym wedi llunio taflen ffeithiau o'r hyn y dylai ac na ddylai rhifwyr ei wneud, yn ogystal â chanllawiau mwy cynhwysfawr ar weithgareddau rhifwyr. Nod y canllawiau yw sicrhau bod pawb yn gwybod yn union beth sy'n dderbyniol a'r hyn nad yw'n dderbyniol ac fe'u lluniwyd i hyrwyddo safonau ymddygiad priodol. Gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) roi ei fersiwn ei hun o ganllawiau i rifwyr hefyd.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Gorffennaf 2024