Gellir penodi unrhyw un i fod yn asiant pleidleisio, ar yr amod nad yw'n::
y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff1
partner neu glerc y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff2
unrhyw un na chaiff bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu euogfarn am arferion llwgr neu anghyfreithlon o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 19833
Gallwch chi a'ch asiant etholiad hefyd weithredu'n awtomatig fel un o'r asiantiaid hynny heb fod angen eich penodi'n swyddogol.4
Gallwch benodi unrhyw nifer o asiantiaid pleidleisio i fod yn bresennol ymhob gorsaf bleidleisio, ond dim ond un asiant pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd all fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio ar unrhyw adeg5
Gellir penodi asiant pleidleisio i fod yn bresennol mewn sawl gorsaf bleidleisio. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich hawl i fod yn bresennol.
Rhaid i asiantiaid pleidleisio gael eu penodi heb fod yn hwyrach na'r pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad.6
Rhaid i'r cais i benodi asiantiaid pleidleisio gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).7
Rhaid iddo gynnwys enwau a chyfeiriadau'r bobl a benodir. Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn darparu ffurflenni ar gyfer hyn, neu gallwch ddefnyddio ffurflen benodi asiant pleidleisio'r Comisiwn.
Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, cewch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen penodiad berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).8
Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.
4. Rheoliad 30(8), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a rheoliad 69(7), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 / rheoliad 69(7), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 4
8. Rheoliad 30(4), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Rheoliad 69(4), (Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001) / a Rheoliad 69(4), (Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001)↩ Back to content at footnote 8