Dylech gyflwyno eich papurau enwebu cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi digon o amser i chi gyflwyno papurau enwebu newydd os bydd eich set gyntaf yn cynnwys unrhyw wallau.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cadarnhau'r union fanylion o ran pryd a ble y gellir eu cyflwyno ar yr hysbysiad etholiad.
Caiff yr hysbysiad etholiad ei gyhoeddi erbyn 4pm ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl i'r gwrit gael ei dderbyn gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).1
Yn y rhan fwyaf o achosion, caiff yr hysbysiad etholiad ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol.
Gallwch gyflwyno papurau enwebu rhwng 10am a 4pm o'r diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad tan 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Os byddwch yn newid eich meddwl ar ôl i chi gyflwyno'ch papurau enwebu ac yn penderfynu nad ydych am sefyll yn yr etholiad mwyach, gallwch dynnu'ch enw yn ôl, cyn belled â'ch bod yn gwneud hynny erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.