I enwebiad ymgeisydd fod yn ddilys, mae'n rhaid ernesau £500 gyda'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn i'r enwebiadau gau, erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Gellir talu'r ernes gan ddefnyddio:1
arian parod (punnoedd Sterling yn unig)
drafft bancwr yn y DU
Gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) hefyd dderbyn ernes ar ffurf siec cymdeithas adeiladu, cerdyn debyd neu gredyd neu drosglwyddiad electronig. Fodd bynnag, gall wrthod gwneud hynny. Os ydych yn ystyried talu'r ernes yn un o'r ffyrdd hyn, dylech holi'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) cyn gynted â phosibl i gadarnhau a yw'r dull o dalu'n dderbyniol.
Os bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn caniatáu i'r ernes gael ei thalu drwy gerdyn debyd neu gredyd, gall y cwmni dan sylw godi ffi am y trafodyn. Os felly, bydd angen i chi dalu unrhyw ffioedd ychwanegol yn ogystal â'r ernes o £500.
Ad-delir ernes ymgeiswyr a gaiff fwy na 5% o gyfanswm y pleidleisiau dilys yn yr etholaeth. Bydd ymgeiswyr sy'n cael 5% neu'n llai o'r cyfanswm o bleidleisiau dilys yn yr etholaeth yn colli eu hernes.