Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Beth os nad yw'r bleidlais ar bapur pleidleisio yn glir?

Ni chaiff papur pleidleisio ei gyfrif:

  • os nad yw wedi ei farcio
  • os nad yw'n cynnwys y marc swyddogol
  • os yw'n cynnwys pleidleisiau ar gyfer mwy nag un ymgeisydd
  • os yw'n cynnwys unrhyw farc neu ysgrifen a all enwi'r pleidleisiwr
  • os nad yw'n nodi bwriad y pleidleisiwr yn glir

Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) lunio datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd am y rhesymau hyn. 

Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) roi'r gair "gwrthodwyd" ar unrhyw bapur pleidleisio a wrthodir. Rhaid iddo ychwanegu'r geiriau "gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod" os bydd asiant cyfrif yn gwrthwynebu penderfyniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). 

Os yw bwriad y pleidleisiwr yn glir ar bapur pleidleisio ac na all unrhyw farc neu ysgrifen ei enwi, ni fydd yn ddi-rym os yw pleidlais wedi ei marcio:

  • yn rhywle arall yn hytrach na'r man priodol
  • mewn ffordd arall heblaw croes (e.e. tic)
  • drwy fwy nac un marc

I gael rhagor o fanylion am y broses o ddyfarnu papurau pleidleisio amheus, gweler ein canllawiau isod.

Papurau pleidleisio amheus

Er mwyn helpu Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol), rydym wedi llunio canllawiau ar sut i ddyfarnu pleidleisiau ar bapurau pleidleisio a all ymddangos yn amheus. Mae'r canllawiau hyn yn ein llyfryn Ymdrin â phapurau pleidleisio amheus. Rydym hefyd wedi llunio matiau bwrdd o bapurau pleidleisio amheus y gall Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) gyfeirio atynt yn ystod y broses gyfrif. 

 

Mae'r enghreifftiau a roddir yn y dogfennau hyn yn seiliedig ar reolau'r etholiad.
 
Noder, er bod y dogfennau hyn yn darparu canllawiau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol), y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) unigol sy'n gyfrifol yn y pen draw am wneud penderfyniad ar bapurau pleidleisio unigol. Bydd eu penderfyniad i wrthod papur pleidleisio penodol yn ystod y broses gyfrif neu ailgyfrif yn derfynol a dim ond ar ôl datgan y canlyniad y gellir ei adolygu mewn deiseb etholiadol. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddeisebau etholiadol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Hydref 2024