Gall asiant etholiad mewn etholaeth sirol benodi is-asiantiaid i weithredu ar ei ran.1
Ni ellir penodi unrhyw is-asiantiaid mewn etholaeth fwrdeistref.
Gall asiantiaid etholiadol benodi is-asiantiaid unigol ar gyfer rhannau penodol o'r etholaeth, ar yr amod nad yw'r rhannau hynny yn gorgyffwrdd. Gall yr asiant benderfynu ar sut i rannu'r etholaeth.
Rhaid i swyddfa'r is-asiant fod yn yr ardal y mae wedi'i benodi i weithredu ynddi.2
Caiff is-asiant wneud unrhyw beth y caiff yr asiant etholiad ei wneud yn yr ardal y mae wedi'i benodi i weithredu ynddi. Hefyd, caiff fod yn bresennol yn y dilysu a chyfrif, yn ogystal â chyfrifo'r canlyniad, ar yr amod ei fod wedi'i benodi i ymdrin â'r prosesau hynny ar gyfer yr ardal benodol honno a'i fod yn gweithredu yn lle'r asiant etholiad.
Dylai'r asiant etholiad sicrhau bod pwy bynnag y maent yn penderfynu penodi fel is-asiant yn ymwybodol o'r rheolau etholiadol a gwariant. Bydd unrhyw beth y mae'r is-asiant yn ei wneud yn cael ei drin fel pe bai wedi'i wneud gan yr asiant etholiad.
Erbyn yr ail ddiwrnod gwaith cyn yr etholiad mae'n rhaid i'r asiant etholiad ddatgan enw, cyfeiriad a chyfeiriad swyddfa bob is-asiant a'r ardal y maent wedi'u penodi iddi i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn ysgrifenedig.3
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn darparu ffurflen i chi ei defnyddio. Neu, gallwch ddefnyddio'r ffurflen bwrpasol ym mhecyn enwebu'r Comisiwn.
Gall yr asiant etholiad ddirymu penodiad unrhyw is-asiant ar unrhyw bryd a gellir penodi is-asiant arall yn eu lle. Os penodir unrhyw is-asiant yn eu lle, rhaid i'r asiant etholiad ddatgan enw, cyfeiriad a chyfeiriad swyddfa ac ardal penodi'r is-asiant newydd yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).