Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Pwy all fod yn asiant etholiad?

Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol i fod yn asiant etholiad a gallwch weithredu fel eich asiant eich hun os byddwch yn dymuno gwneud hynny.

Fodd bynnag, ni chaiff y bobl ganlynol fod yn asiantiaid etholiad:

  • y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff1
  • partner neu glerc y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff2
  • unrhyw un na chaiff bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu euogfarn am arferion llwgr neu anghyfreithlon o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 19833

Os ydych yn sefyll fel ymgeisydd plaid, efallai y bydd gan eich plaid reolau penodol hefyd ynghylch pwy y gallwch ei benodi'n asiant etholiad.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Tachwedd 2024