Yn sgil y cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth rôl asiant etholiad, dylech ystyried eich penodiad yn ofalus a sicrhau bod yr unigolyn dan sylw yn deall ei rwymedigaethau. Gallwch weithredu fel eich asiant eich hun os byddwch yn dymuno gwneud hynny.
Rhaid i chi ddatgan yn ysgrifenedig enw, cyfeiriad a chyfeiriad swyddfa eich asiant etholiad i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn 4pm ar y 19eg diwrnod gwaith cyn yr etholiad.1
Dylech chi a'r asiant lofnodi'r datganiad i ddangos eich bod yn derbyn y penodiad.
Mae hefyd yn ddefnyddiol darparu rhif ffôn cyswllt a chyfeiriad e-bost ar gyfer eich asiant etholiad fel y gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) gysylltu â hwy yn hawdd.
Gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ddarparu ffurflen datganiad, neu gallech ddefnyddio ffurflen datganiad yr asiant etholiad a gynhyrchwyd gan y Comisiwn . Os na fyddwch yn penodi rhywun arall fel eich asiant erbyn y dyddiad cau, byddwch yn dod yn asiant i chi'ch hun yn awtomatig.2
Rhaid bod gan eich asiant swyddfa y gellir anfon unrhyw hysbysiadau cyfreithiol iddi,3
ac felly rhaid bod gan y swyddfa honno gyfeiriad ffisegol – Ni ellir defnyddio blychau Swyddfa'r Post na blychau post tebyg.
o fewn yr etholaeth seneddol lle'r ydych yn sefyll, neu
o fewn etholaeth sy'n cyd-ffinio â'r etholaeth lle rydych yn sefyll, neu
yng Nghymru, o fewn sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru sy'n rhan o'r etholaeth, neu'n cyd-ffinio â'r etholaeth, neu
yn Llundain, o fewn bwrdeistref neu ddosbarth yn Llundain sy'n rhan o'r etholaeth, neu'n ffinio'r etholaeth
Yn aml, cyfeiriad cartref yr asiant fydd cyfeiriad ei swyddfa, ond gallai hefyd fod yn gyfeiriad swyddfa leol y blaid neu swyddfa a sefydlwyd ar gyfer yr etholiad.
Os byddwch yn gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun, oni bai eich bod yn darparu cyfeiriad swyddfa, caiff eich cyfeiriad cartref fel y'i rhoddwyd ar y ffurflen cyfeiriad cartref ei gyhoeddi ar yr hysbysiad o asiantiaid etholiad5
. Os yw'r cyfeiriad hwnnw y tu allan i'r ardal a ganiateir, tybir mai'r cyfeiriad swyddfa yw cyfeiriad eich cynigydd (h.y. y llofnodwr cyntaf ar eich ffurflen enwebu).