Gallwch ddiddymu penodiad eich asiant etholiad unrhyw bryd, gan gynnwys ar ôl y diwrnod pleidleisio, a gellir gwneud penodiad newydd drwy ddilyn y broses uchod Penodi asiant etholiad.1
Os byddwch yn diddymu penodiad eich asiant etholiad, heb benodi rhywun arall, tybir mai chi yw eich asiant etholiad eich hun.
Os ydych yn gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun, gallwch ddiddymu eich penodiad eich hun a phenodi rhywun arall fel eich asiant.
Pan fydd asiant wedi derbyn ei benodiad, ni all ymddiswyddo a rhaid iddo gyflawni'r dyletswyddau gofynnol oni fyddwch yn diddymu ei benodiad.