| Argraffu'r canllawiau llawn

Beth sy'n digwydd i waith papur yr etholiad ar ôl cyhoeddi’r canlyniad

Ar ôl datgan y canlyniadau, bydd holl ddogfennau’r etholiad yn cael eu cadw'n ddiogel gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol (ERO) perthnasol am gyfnod o flwyddyn o’r diwrnod y mae’n eu derbyn.1

Mae’r rhan fwyaf o’r dogfennau ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio. Noder nad yw’r papurau pleidleisio ar gael i’r cyhoedd eu gweld.2

Archwilio a chyflenwi cofrestrau wedi'u marcio

Mae’r cofrestrau etholiadol a’r rhestrau o bleidleiswyr absennol a farciwyd yn dangos pwy sydd wedi cael papur pleidleisio, pwy sydd wedi dychwelyd eu papur pleidleisio drwy’r post, a phwy sydd wedi cael pleidlais drwy ddirprwy wedi’i bwrw ar eu rhan.

Gallwch archwilio neu gael gafael ar gopïau o’r gofrestr o etholwyr a rhestrau o bleidleiswyr absennol wedi’u marcio ar ôl yr etholiad os byddwch yn gwneud cais ysgrifenedig i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol. Mae’r manylion cyswllt ar gael ar ein gwefan. 

Noder mai dim ond at ddibenion ymchwil neu etholiadol y gallwch ddefnyddio’r wybodaeth a geir o’r dogfennau hyn.3

Gwneud cais i archwilio cofrestr a farciwyd

Rhaid i'r cais i archwilio gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi:4

  • pa ddogfennau y gofynnir amdanynt
  • at ba ddibenion y bydd y wybodaeth mewn unrhyw ddogfen yn cael ei defnyddio
  • os gwneir y cais i archwilio'r gofrestr neu restrau a farciwyd, unrhyw reswm pam na fyddai archwilio'r gofrestr lawn neu restrau heb eu marcio yn ddigonol i gyflawni'r diben hwnnw
  • pwy fydd yn archwilio'r dogfennau
  • y dyddiad maent yn dymuno archwilio'r dogfennau
  • a fyddai'n well ganddynt archwilio'r dogfennau ar ffurf argraffedig neu ar ffurf data

Bydd yr archwiliad dan oruchwyliaeth a bydd yn rhad ac am ddim. Ni fyddwch yn gallu gwneud copïau ond gallwch wneud nodiadau â llaw.

Gwneud cais i gyflenwi cofrestr a farciwyd5

Rhaid i’r cais i gyflenwi nodi:

  • pa rai o'r cofrestrau neu'r rhestrau a farciwyd (neu'r rhan berthnasol o'r gofrestr neu'r rhestrau) y gwneir cais amdanynt
  • p'un a ofynnir am gopi wedi’i argraffu o’r cofnodion neu’r rhestrau neu gopi ar ffurf data
  • at ba ddibenion y bydd y gofrestr neu'r rhestrau a farciwyd yn cael eu defnyddio a pham na fyddai cyflenwi neu brynu copi o'r gofrestr lawn neu'r rhestrau heb eu marcio yn ddigon i gyflawni'r diben hwnnw

Bydd y ddogfen y gofynnir amdani yn cael ei chyflenwi am ffi o £10 ynghyd â £2 (am fersiynau wedi’u hargraffu) neu £1 (am fersiynau data) fesul 1,000 o gofnodion.6

Noder y bydd y dogfennau hyn a gedwir gan yr ERO yn cael eu dinistrio ar ôl 12 mis, oni fydd gorchymyn llys yn dweud fel arall.7 Dan ddeddfwriaeth diogelu data, ni fydd data personol sy’n cael ei brosesu at unrhyw ddiben yn cael ei gadw am gyfnod hirach nag sy’n angenrheidiol at y diben hwnnw. Os byddwch yn gwneud cais am unrhyw wybodaeth a restrir uchod, ac yn ei chael, ar ôl i’r diben ar gyfer casglu’r data hwn fynd heibio, bydd angen i chi ystyried a oes rheswm i chi gadw’r data hwnnw. Os nad oes rheswm, dylech sicrhau bod unrhyw ddata a gedwir yn cael ei ddinistrio’n ddiogel. Ni ellir archwilio papurau enwebu ar ôl yr etholiad. Yr unig gyfnod y gallant gael eu harchwilio yw yn ystod oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf o ddanfon papurau enwebu a’r diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio.8

Archwilio dogfennau etholiadol eraill9

Gallwch archwilio dogfennau etholiadol eraill, ond ni chaniateir i chi wneud unrhyw nodiadau na gwneud copïau o’r dogfennau hyn. Yr unig ddogfennau na ellir eu harchwilio yw:10

  • y papurau pleidleisio
  • y rhestrau rhifau cyfatebol
  • y tystysgrifau sy'n caniatáu i staff gorsafoedd pleidleisio fwrw pleidlais yn yr orsaf bleidleisio maent yn gweithio ynddi

Bydd holl ddogfennau’r etholiad a gedwir gan yr ERO yn cael eu dinistrio ymhen blwyddyn ar ôl iddynt gael eu derbyn, oni bai bod gorchymyn llys yn dweud fel arall.11

Archwilio datganiadau a ffurflenni gwariant etholiad

Mae datganiadau a ffurflenni gwariant yn cael eu cadw gan y Swyddog Canlyniadau perthnasol. Gall unrhyw berson archwilio datganiadau a ffurflenni gwariant ar ôl iddynt gael eu cyflwyno. Gellir gwneud copïau hefyd am ffi o 20c fesul ochr.12

Cedwir datganiadau a ffurflenni gwariant am ddwy flynedd. Gallwch ofyn iddynt gael eu dychwelyd i chi neu eich asiant ar ddiwedd y cyfnod hwn. Os nad ydych chi neu eich asiant am eu cael yn ôl, bydd y datganiadau a'r ffurflenni gwariant yn cael eu dinistrio.13

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Ebrill 2026