| Argraffu'r canllawiau llawn

Cwblhau eich ffurflen gwariant - Ymgeiswyr unigol

Gelwir eich adroddiad rhoddion a gwariant yn ‘ffurflen gwariant’. Rhaid i’r asiant lenwi’r ffurflen gwariant.

Dylai’r ffurflen gynnwys y canlynol:

  • ar gyfer beth oedd y gwariant - er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
  • enw a chyfeiriad y cyflenwr
  • y swm neu’r gwerth
  • manylion ynghylch pryd gafodd ei ysgwyddo a’i dalu
  • manylion am unrhyw daliadau nas talwyd neu y mae anghydfod yn eu cylch1
  • manylion am unrhyw wariant tybiannol, a datganiad o’i werth2
  • anfonebau neu dderbynebau am unrhyw daliad o £20 neu fwy3
  • manylion am unrhyw dreuliau personol4

Mae’n arfer dda i gynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych o werth gwariant tybiannol pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen.

Hefyd, mae’n rhaid i’r ffurflen gynnwys manylion am yr holl roddion sy’n fwy na £500 ac unrhyw wariant awdurdodedig ar ymgyrchu lleol.5  Mae rhagor o wybodaeth am y manylion y mae angen ichi adrodd amdanynt yn Gwariant i ymgeiswyr unigol a Rhoddion i ymgeiswyr unigol.

Mae hefyd rhaid i’r ymgeisydd a’r asiant lofnodi datganiad i gadarnhau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth a’u cred.6  Eich cyfrifoldeb chi yw adrodd am wariant ymgeisydd yn llawn ac yn gywir.

Mae gwneud datganiad ffug yn fwriadol yn drosedd.7

Ffurflenni y bydd eu hangen arnoch:

Enghraifft o ffurflen gwariant wedi’i gwblhau

Rydym wedi cyhoeddi enghraifft o ffurflen gwariant ymgeisydd etholaethol i ddangos sut y gellid cwblhau un. Ni fwriedir iddi gael ei defnyddio i lenwi eich treuliau.

Mae'n cynnwys sylwadau sy'n tynnu sylw at gysylltiadau rhwng gwahanol rannau o'r ffurflen - er enghraifft rhywbeth a adroddir fel gwariant tybiannol, sydd hefyd yn cael ei adrodd fel rhodd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Mai 2026