Beth mae’r pecyn pleidleisio drwy’r post yn ei gynnwys?
Mae’r pecynnau pleidleisio drwy’r post yn cynnwys y canlynol:
Amlen A yw’r amlen mae’r etholwr yn dychwelyd ei bapurau pleidleisio ynddi. Mae wedi’i marcio â’r llythyren ‘A’ a’r geiriau ‘Amlen papur pleidleisio’ yn Gymraeg a 'Ballot paper envelope' yn Saesneg
Amlen B yw’r amlen y bydd yr etholwr yn ei defnyddio i ddychwelyd yr amlen papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio drwy’r post. Mae wedi’i marcio â’r llythyren ‘B’ a chyfeiriad y Swyddog Canlyniadau
Mae'r datganiad pleidleisio drwy’r post yn cynnwys enw’r etholwr, rhif y papur pleidleisio a roddwyd iddo, cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio drwy’r post a lle i’r etholwr lofnodi a nodi ei ddyddiad geni