Gellir crynhoi camau’r broses o agor y pleidleisiau post fel a ganlyn:
Cam
Proses
1
Mae'r pleidleisiau post yn cyrraedd y sesiwn agor mewn blychau pleidleisio
2
Mae’r prif amlenni (amlen B) yn cael eu tynnu allan a’u cyfrif
3
Mae cyfanswm y prif amlenni yn cael ei gofnodi
4
Mae’r prif amlenni (amlen B) yn cael eu rhannu rhwng timau o staff agor
5
Mae'r staff yn agor pob prif amlen (amlen B) ac yn tynnu’r datganiad pleidleisio drwy’r post a’r amlen papur pleidleisio wedi’i selio (amlen A)
6
Bydd y staff yn gwirio bod y rhif ar y datganiad pleidleisio drwy’r post yn cyfateb i’r rhif ar amlen A
7
Os yw’r rhifau’n cyfateb, bydd y staff yn gwirio bod yr etholwr wedi nodi llofnod a dyddiad geni (heb wirio mai rhai yr etholwr ydynt ar y cam hwnnw)
Mae datganiadau pleidleisio drwy’r post heb lofnod a dyddiad geni yn golygu bod y bleidlais bost yn cael ei gwrthod
8
Os yw'r datganiad neu’r amlen papur pleidleisio ar goll, neu os nad yw’r rhifau ar y datganiad a’r amlen papur pleidleisio yn cyfateb, caiff y ddogfen/dogfennau eu rhoi o’r neilltu, eu cofnodi a’u storio mewn pecynnau diogel
9
Rhaid i’r Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy ddilysu'r dyddiadau geni a’r llofnodion a nodwyd ar y datganiadau
10
Rhaid i’r Swyddog Canlyniadau fod yn fodlon bod y dyddiadau geni a’r llofnodion ar y datganiadau yn cyfateb i’r rhai a gadwyd ar gofnod yn flaenorol
11
Ar ôl dilysu’r llofnodion a’r dyddiadau geni, mae'r datganiadau pleidleisio drwy’r post yn cael eu tynnu oddi ar y byrddau
12
Bydd y staff yn agor yr amlenni papur pleidleisio (amlen A) ac yn tynnu'r papur pleidleisio allan
13
Bydd y staff yn gwirio bod y rhif ar gefn y papur pleidleisio yn cyfateb i’r rhif ar yr amlen papur pleidleisio (amlen A)
14
Mae papurau pleidleisio dilys (nid pleidleisiau) yn cael eu cyfrif a chyfanswm y nifer yn cael ei gofnodi
15
Mae’r holl bapurau pleidleisio dilys yn cael eu rhoi mewn blychau pleidleisio a’u storio ac yna’n cael eu danfon i’r lleoliad cyfrif i’w cyfrif ar ôl cau'r bleidlais
Paru datganiadau pleidleisio drwy’r post gyda phapurau pleidleisio drwy’r post
Cynhelir rhestrau o unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd dros dro, gan gynnwys:1
unrhyw bapur pleidleisio drwy'r post sydd wedi'i ddychwelyd heb ddatganiad pleidleisio drwy'r post
unrhyw ddatganiad pleidleisio drwy'r post sydd heb ei ddychwelyd gyda'r papur pleidleisio drwy'r post.
Bydd y rhestrau hyn yn cael eu gwirio yn rheolaidd i sicrhau, os gellir cyfateb unrhyw ddogfennau nad ydynt yn cyfateb, bod y papurau pleidleisio drwy’r post hynny’n cael eu hailgyflwyno i’r broses.