Er y gall asiant pleidleisio arsylwi’r bleidlais, nid oes rhaid iddo fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio er mwyn i'r pleidleisio a'r gweithdrefnau perthnasol ddigwydd. Mae gan asiantiaid pleidleisio nifer o rolau pwysig i'w chwarae ar y diwrnod pleidleisio. Gallant:
fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio cyn i'r bleidlais agor er mwyn gwylio'r Swyddog Llywyddu yn dangos y blwch pleidleisio gwag cyn iddo gael ei selio
canfod cambersonadu ac atal pobl rhag pleidleisio mwy nag unwaith yn yr etholiad (ac eithrio fel dirprwyon). Cambersonadu yw pan fydd unigolyn yn pleidleisio fel rhywun arall, p'un a yw'r person hwnnw’n fyw, yn farw neu’n ddychmygol
bod yn bresennol pan fydd y Swyddog Llywyddu yn marcio papur pleidleisio ar gais etholwr sydd angen cymorth i farcio papur pleidleisio oherwydd anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu
rhoi gwybod i chi neu i’ch asiant etholiad am unrhyw weithgareddau amhriodol a chadw nodiadau, os oes angen, ar gyfer rhoi tystiolaeth yn y llys
bod yn bresennol ar ddiwedd y pleidleisio pan gaiff yr amrywiol becynnau o ddogfennau eu selio
atodi eu sêl i unrhyw becynnau a roddwyd at ei gilydd gan y Swyddog Llywyddu ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio, gan gynnwys y blwch pleidleisio. Ni ellir atodi seliau asiantiaid pleidleisio i flychau pleidleisio ar ddechrau nac yn ystod y pleidleisio