Mae gan unrhyw un sy’n mynd i orsaf bleidleisio ddyletswydd i gynnal cyfrinachedd y bleidlais.1
Yn benodol, ni ddylid datgelu’r wybodaeth ganlynol:
enw neu rif etholiadol y sawl sydd wedi pleidleisio neu heb bleidleisio
y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar y papurau pleidleisio.
Ni ddylai unrhyw un sy’n mynd i orsaf bleidleisio geisio cael gwybod sut mae pleidleisiwr wedi pleidleisio neu dros bwy y mae ar fin pleidleisio.
Gall asiant pleidleisio farcio ar ei gopi ef o’r gofrestr etholwyr y pleidleiswyr hynny sydd wedi gwneud cais am bapurau pleidleisio. Os yw’r asiant pleidleisio yn gadael yr orsaf bleidleisio yn ystod y cyfnod pleidleisio, bydd angen iddo adael y copi o’r gofrestr a farciwyd yn yr orsaf bleidleisio i sicrhau na thorrir gofynion cyfrinachedd.
Gall unrhyw berson sy’n cael ei ddyfarnu’n euog o dorri’r gofynion cyfrinachedd wynebu dirwy ddigyfyngiad, neu gallant gael eu carcharu am hyd at chwe mis.