Er mwyn gallu sefyll fel ymgeisydd rhestr plaid neu unigol yn etholiad y Senedd, mae’n rhaid i chi fod: 1
yn 18 oed o leiaf
wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol yng Nghymru
yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, yn ddinesydd tramor cymwys, yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd o'r Undeb Ewropeaidd sy'n preswylio yn y Deyrnas Unedig.
Mae dinesydd cymwys o’r Gymanwlad yn ddinesydd o’r Gymanwlad sydd naill ai:2
ddim angen caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig, neu
sydd â chaniatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig.