| Argraffu'r canllawiau llawn

Anghymwysiadau

Ar wahân i fodloni’r cymwysiadau ar gyfer sefyll mewn etholiad, rhaid i chi beidio â chael eich anghymhwyso chwaith.

Mae’r ystod lawn o anghymwysiadau yn gymhleth ac os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch a ydych yn anghymwys, rhaid i chi wneud popeth o fewn eich gallu i wirio nad ydych yn anghymwys cyn cyflwyno eich papurau enwebu.   

Rhaid i chi fod yn sicr nad ydych yn anghymwys gan y gofynnir i chi lofnodi’r ffurflen cydsynio ag enwebiad i gadarnhau nad ydych yn anghymwys.1   

Mae’n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich papurau enwebu ynghylch eich cymhwysedd ar gyfer cael eich ethol,2  felly os oes gennych unrhyw amheuaeth, dylech gysylltu â’ch cyflogwr, darllen y ddeddfwriaeth neu, os oes angen, ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol eich hun. 

Ni fydd y Swyddog Canlyniadau (RO) yn gallu cadarnhau a ydych yn anghymwys ai peidio

Mae rhai pobl wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelod o'r Senedd neu'n ymgeisydd mewn etholiad Senedd Cymru. Ni allwch fod yn ymgeisydd os, ar adeg eich enwebiad ac ar ddiwrnod yr etholiad,:

  • Oes gennych swydd sy’n eich gwneud yn anghymwys i ddod yn aelod o’r Senedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau Swyddi anghymwys.
  • Ydych yn destun cyfyngiadau methdaliad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar Fethdaliad.3
  • Ydych yn garcharor wedi’i gollfarnu sy’n bwrw dedfryd o fwy nag un flwyddyn o garchar (neu ddedfryd amhenodol) yn unrhyw le yn y DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu rywle arall o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu eich bod ar ffo’n anghyfreithiol.4
  • Ydych wedi cael eich anghymwyso dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (sy’n cynnwys arferion etholiadol llwgr neu anghyfreithlon a throseddau sy’n ymwneud â rhoddion neu’n dilyn cael eich adrodd yn euog o arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Orchymyn Senedd Cymru 2025). Mae’r anghymhwysiad am ymarfer anghyfreithlon yn dechrau o’r dyddiad y cafodd person ei ddyfarnu’n euog gan lys etholiad ac mae’n para am dair blynedd. Mae’r anghymhwysiad am ymarfer llwgr yn dechrau o’r dyddiad y cafodd person ei ddyfarnu’n euog gan lys etholiad ac mae’n para am bum mlynedd.
  • Rydych wedi'ch cael yn euog o drosedd bygythiol a sbardunwyd gan elyniaeth tuag at ymgeisydd, darpar ymgeisydd neu ymgyrchydd neu ddeiliad swydd etholedig berthnasol. Effaith gorchymyn anghymhwyso yw y bydd y person yn cael ei anghymhwyso rhag sefyll am, cael ei ethol i, a dal unrhyw swydd etholedig berthnasol am bum mlynedd.5
  • Rydych yn ddarostyngedig i ofynion hysbysu Rhan 2 Deddf Troseddau Rhywiol 2003 ac mae'r cyfnod arferol a ganiateir ar gyfer gwneud apêl neu gais yng nghyswllt y gorchymyn neu'r hysbysiad wedi mynd heibio. Ni fydd person sydd yn y broses o wneud apêl neu gais mewn perthynas â'r anghymhwysiad yn cael ei anghymwyso ar unrhyw adeg cyn diwedd y diwrnod y penderfynir ar yr apêl, y rhoddir y gorau i'r apêl neu'r cais, neu y mae'n methu oherwydd diffyg erlyniad.6

Mae gan y Swyddog Canlyniadau yr hawl i ddal papur enwebu gan ymgeisydd unigol sydd wedi’i anghymwyso’n annilys ac i drin ymgeisydd rhestr plaid anghymwys fel pe bai wedi rhoi'r gorau i sefyll.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2025