Gellir herio canlyniad etholiad Senedd Cymru drwy ddeiseb etholiadol.1
Cyflwyno deiseb etholiadol
Dim ond rhai pobl gaiff gyflwyno deiseb etholiadol, a dim ond dan amgylchiadau penodol.2
Mae modd i’r canlynol gyflwyno deiseb etholiadol:3
rhywun sy’n honni ei fod wedi bod yn ymgeisydd yn yr etholiad, neu
rhywun sy'n honni bod ganddo'r hawl i gael ei ethol neu ei ddychwelyd yn yr etholiad, neu
etholwr (nad yw’n etholwr cofrestredig dienw) a oedd â’r hawl i bleidleisio yn yr etholiad (er nad oes rhaid iddo fod wedi pleidleisio)
rhywun sy’n honni bod ganddo'r hawl i gael ei ddychwelyd mewn perthynas â sedd wag berthnasol
Y seiliau a ganiateir dros ddeiseb etholiadol yw bod y canlynol wedi digwydd:4
etholiad amhriodol, neu
ganlyniad amhriodol
Mae proses farnwrol ar wahân ar gyfer herio ethol Aelod o’r Senedd ar y sail ei fod wedi’i anghymhwyso, drwy wneud cais i’r Uchel Lys.5
Rhaid i’r Aelod, y mae ei ethol neu ei ddychweliad yn destun cwyn, fod yn ymatebydd i’r ddeiseb.6
Os yw’r ddeiseb yn cwyno am ymddygiad y Swyddog Canlyniadau neu ei staff yn ystod yr etholiad, rhaid i’r Swyddog(ion) Canlyniadau hefyd fod yn ymatebydd.7
Fel arfer, rhaid cyflwyno deiseb ymhen 21 diwrnod calendr ar ôl i enw’r ymgeisydd etholedig gael ei ddychwelyd i Glerc y Senedd.8
Fodd bynnag, os yw’r ddeiseb yn cwyno am arferion llwgr neu anghyfreithlon sy’n ymwneud â thalu arian neu wobr arall, neu am arfer anghyfreithlon sy’n ymwneud â gwariant etholiad, gellir caniatáu rhagor o amser.
Ar gyfer unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â deisebau etholiadau, gan gynnwys i gadarnhau’r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno deiseb etholiadol, dylech gysylltu â:
The Election Petitions Office Room E105 Royal Courts of Justice Strand London WC2A 2LL E-bost: [email protected] Rhif Ffôn: 0207 947 6877
Mae costau ynghlwm â deiseb etholiadol. Os ydych chi’n ystyried cyflwyno deiseb etholiadol, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol.