Enwebiadau a gyflwynwyd hyd at ac yn cynnwys 4pm ar y diwrnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Rhaid gwneud gwrthwynebiadau i unrhyw enwebiadau a gyflwynir hyd at ac yn cynnwys 4pm ar y diwrnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu ar ddiwrnod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu cyn hanner dydd neu am hanner dydd.
Enwebiadau a ddanfonir ar ôl 4pm ar y diwrnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Rhaid gwneud gwrthwynebiadau i unrhyw ffurflen enwebu a gyflwynir ar ôl 4pm ar y diwrnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu cyn 5pm neu am 5pm ar ddiwrnod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Penderfyniadau ar wrthwynebiadau
Bydd y Swyddog Canlyniadau Etholaeth yn ystyried unrhyw wrthwynebiadau a wneir, ond mae ganddo hawl i bennu bod enwebiad yn annilys ar y seiliau canlynol yn unig:2
tnad yw ffurflen enwebu yn cynnwys enw plaid neu ddisgrifiad, yn groes i reol 6(3) rheolau etholiadau Senedd Cymru
nad yw’r ffurflen enwebu yn cynnwys rhestr plaid neu mae mwy nag 8 ymgeisydd wedi’u cynnwys ar y rhestr plaid
nad yw'r ffurflen enwebu yn cynnwys tystysgrif sy'n awdurdodi defnyddio enw neu ddisgrifiad plaid, yn groes i reol 7(1) a (5) o reolau etholiadau Senedd Cymru
nad yw'r ffurflen wedi'i llofnodi fel sy'n ofynnol gan reol 6(8) o reolau etholiadau Senedd Cymru
bod pob ymgeisydd ar y rhestr plaid wedi peidio â bod yn ymgeisydd enwebedig oherwydd:
eu marwolaeth neu eu bod wedi tynnu’n ôl
nad yw eu manylion yn unol â gofynion y gyfraith:
maent wedi’u hanghymwyso dan 16(A1) o Ddeddf 2006 neu
mae eu hymgeisyddiaeth yn groes i adran 7(4) o Ddeddf 2006
Mae penderfyniad y Swyddog Canlyniadau bod enwebiad yn ddilys yn derfynol ac ni ellir ei herio yn ystod yr etholiad. Dim ond ar ôl etholiad drwy ddeiseb etholiad y gellir herio'r penderfyniad.3
I gael rhagor o wybodaeth gweler ein canllawiau ar ddeisebau etholiadol.