| Argraffu'r canllawiau llawn

Cyflwyno enwebiadau yn electronig

Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cynnwys datganiad danfon electronig ar yr hysbysiad etholiad.

Bydd y datganiad hwn yn nodi’r trefniadau sydd gan y Swyddog Canlyniadau ar waith ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn electronig.

Bydd y trefniadau a ddarperir gan y Swyddog Canlyniadau naill ai:1

  • yn gyfeiriad e-bost y gallwch anfon eich papurau enwebu ato
  • yn wasanaeth y gallwch ei ddefnyddio i gyflwyno eich papurau enwebu ar-lein 

Os byddwch yn dewis cyflwyno eich papurau enwebu drwy e-bost, dylech sicrhau eich bod yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost penodol at y diben hwnnw fel y nodir yn y datganiad cyflwyno electronig. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau yn derbyn eich ffurflenni enwebu yn y ffordd gywir erbyn y dyddiadau cau gofynnol.

Bydd cyflwyno eich enwebiad i gyfeiriad e-bost nad yw’n benodol at y diben hwnnw yn golygu y bydd eich papur enwebu'n cael ei ystyried fel un sydd heb ei gyflwyno yn ôl y gofynion.

Cyn belled ag y bo modd, dylech atodi'r holl ffurflenni sy'n ofynnol ar gyfer eich enwebiad rhestr plaid i un e-bost.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2026