Dylai papurau enwebu gael eu cyflwyno cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddog Canlyniadau gynnal gwiriad anffurfiol, ac er mwyn rhoi digon o amser i chi gyflwyno papurau enwebu newydd pe bai eich set gyntaf yn cynnwys unrhyw wallau.
Cyhoeddir yr hysbysiad etholiad heb fod yn hwyrach na 25 diwrnod gwaith cyn y bleidlais a bydd yn nodi’r amseroedd y gellir cyflwyno’r enwebiadau’n bersonol a’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer cyflwyno’r enwebiadau’n electronig.1
Cyhoeddir yr hysbysiad etholiad ar wefan y Swyddog Canlyniadau.
Fel arfer, dim ond yn ystod oriau swyddfa y mae’n bosibl cyflwyno papurau enwebu â llaw. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cadarnhau union fanylion pryd a ble y gellir cyflwyno papurau enwebu yn bersonol ar yr hysbysiad etholiad swyddogol.
Ar ôl i chi gyflwyno’r papurau enwebu, os nad ydych yn dymuno i’r rhestr plaid ymladd yr etholiad mwyach, gallwch chi fel y Swyddog Enwebu dynnu’n ôl y rhestr plaid lawn, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.2
Gallwch dynnu’n ôl un neu fwy o ymgeiswyr sydd wedi'u cynnwys ar y rhestr plaid hefyd erbyn yr un dyddiad cau. Caiff ymgeiswyr unigol sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr dynnu’n ôl hefyd, ar yr amod eu bod yn gwneud hynny erbyn yr un terfyn amser. I gael rhagor o fanylion, gweler ein canllawiau ar dynnu’n ôl.