Dim ond rhai pobl sydd â hawl i fod yn bresennol wrth gyflwyno papurau enwebu neu gael mynediad atynt os cânt eu cyflwyno'n electronig er mwyn archwilio a gwrthwynebu dilysrwydd ffurflen enwebu.1
Ar ôl i’ch papurau enwebu a’ch ernes gael eu cyflwyno ac ar ôl i chi gael eich enwebu'n ddilys, gall y canlynol archwilio ffurflen enwebu a'i gwrthwynebu:2
chi (neu rywun a benodwyd yn ysgrifenedig ar eich rhan)
eich asiant etholiad neu os ydych chi’n gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun, rhywun a enwebwyd gennych chi i fod yn bresennol ar eu rhan
unrhyw Swyddogion Enwebu (neu rywun a benodwyd yn ysgrifenedig ar eu rhan) sydd wedi cyflwyno rhestr plaid
ymgeisydd rhestr plaid
person arall sy’n sefyll fel ymgeisydd unigol
asiant etholiad rhestr plaid
os yw’r asiant etholiad hefyd yn ymgeisydd ar restr plaid, rhywun a enwebwyd ganddo i fod yn bresennol ar ei ran
os ydych chi’n gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun, rhywun a enwebwyd gennych chi i fod yn bresennol ar eich rhan.
Gall cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ac un person arall a ddewisir gan bob rhestr plaid neu ymgeisydd unigol a enwebwyd yn ddilys hefyd fod yn bresennol wrth gyflwyno papurau enwebu, ond ni chânt eu harchwilio na gwneud unrhyw wrthwynebiadau.3
Ni chaiff unrhyw berson arall, ac eithrio'r Swyddog Canlyniadau a'i staff, fod yn bresennol wrth gyflwyno papurau enwebu.