| Argraffu'r canllawiau llawn

Cwblhau eich papurau enwebu

I gael eich enwebu fel ymgeisydd unigol yn etholiadau Senedd Cymru, mae angen i chi gyflwyno set gyflawn o bapurau enwebu i’r man a bennwyd gan y Swyddog Canlyniadau perthnasol gyda’r ernes erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.1

Mae’r terfyn amser hwn wedi’i nodi yn y gyfraith ac ni ellir ei newid am unrhyw reswm.
 
Bydd y dyddiad cyntaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, ynghyd â’r amseroedd a’r trefniadau ar gyfer eu cyflwyno â llaw neu’n electronig, yn cael eu nodi yn yr hysbysiad etholiad a gyhoeddir gan y Swyddog Canlyniadau.2

Mae tri phapur enwebu y mae’n rhaid i chi eu cyflwyno i wneud eich enwebiad yn ddilys:3

  • y ffurflen enwebu unigol  
  • ffurflen cyfeiriad cartref
  • eich ffurflen cydsynio ag enwebiad, gan gynnwys datganiad o aelodaeth plaid

Gall y Swyddog Canlyniadau bennu bod eich papur enwebu yn annilys os nad yw manylion eich enwebiad yn bodloni gofynion y gyfraith.4

Gall y Swyddog Canlyniadau hefyd wrthod eich enwebiad os daw i’r casgliad ei fod yn amlwg yn ffug, er enghraifft, os rhoddir enw sy’n amlwg yn ddychmygol.

Gallwch gael papurau enwebu gan y Swyddog Canlyniadau. Gellir cael manylion cyswllt oddi ar ein gwefan. Fel arall, rydym wedi cynhyrchu set o bapurau enwebu y gallech eu defnyddio.

Os nad ydych chi, eich asiant, neu rywun rydych chi’n ymddiried ynddo yn gallu cwblhau'r ffurflen enwebu, gall y Swyddog Canlyniadau helpu drwy baratoi’r ffurflen ar gyfer eich llofnod. Dylech holi’r Swyddog Canlyniadau ar y cyfle cyntaf pa gymorth a allai fod ar gael. Efallai y bydd y Swyddog Canlyniadau hefyd yn gallu cynnig gwiriadau anffurfiol o’ch papurau enwebu wedi’u cwblhau cyn i chi eu cyflwyno. Dylech gael gwybod gan y Swyddog Canlyniadau a ydynt yn bwriadu cynnig gwiriadau anffurfiol.

Noder, mae'n rhaid i unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych chi ar eich papurau enwebu fod yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth. Mae’n drosedd rhoi datganiad anwir ar eich papurau enwebu.5 Gallai rhoi datganiad anwir ddirymu eich ethol, a gall hefyd arwain at ddirwy ddigyfyngiad a/neu garchar.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2026