Gallwch dynnu’n ôl fel ymgeisydd drwy lofnodi a chyflwyno hysbysiad tynnu’n ôl.1
Rhaid i chi lofnodi’r hysbysiad ym mhresenoldeb tyst ac mae’n rhaid iddo ardystio eich llofnod.2
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy gaiff gyflwyno’r hysbysiad, ond rhaid ei gyflwyno i’r Swyddog Canlyniadau:3
â llaw i'r man ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
yn electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn yr hysbysiad etholiad
erbyn y dyddiad cau ar gyfer tynnu’n ôl, 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.4
Gellir cael hysbysiad tynnu’n ôl gan y Swyddog Canlyniadau neu ei lawrlwytho oddi ar ein gwefan.