A fydd yr etholiad yn cael ei hymladd neu a fydd yn ddiwrthwynebiad?
Mae'r etholiad yn ddiwrthwynebiad os yw nifer yr ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiad (boed ar restr plaid neu’n ymgeiswyr unigol) yr un faint neu’n llai na nifer y seddi ar gyfer yr etholaeth.1
Yn yr amgylchiadau hyn, bydd y Swyddog Canlyniadau yn datgan seddi’r Senedd ar gyfer yr etholaeth yn unol â’r rheolau.
Os cânt eu hethol mewn etholiad diwrthwynebiad, mae’n dal yn rhaid i ymgeiswyr unigol gyflwyno ffurflen wariant a gwneud datganiad o’u gwariant etholiad.
Cyhoeddi datganiad ynghylch pleidiau a phersonau a enwebwyd
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn cyhoeddi datganiad ynghylch pleidiau a phersonau a enwebwyd, gan gynnwys hysbysiad o bleidlais ar gyfer yr etholaeth, erbyn 4pm fan bellaf, 18 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.2
pob plaid gofrestredig ynghyd â rhestr o ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys
pob ymgeisydd unigol a enwebwyd yn ddilys
enw llawn bob ymgeisydd rhestr plaid ac ymgeisydd unigol neu enwau a ddefnyddir yn gyffredin os ydynt wedi rhoi un
y disgrifiad ‘Annibynol’ ac/neu ‘Independent’ (os yw’n berthnasol) ar gyfer ymgeiswyr unigol nad ydynt yn sefyll ar ran plaid wleidyddol
cyfeiriadau cartref pob ymgeisydd rhestr plaid, neu os ydynt wedi gofyn am beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad cartref, yr ardal berthnasol sef:
enw etholaeth y Senedd os yw’r cyfeiriad cartref yng Nghymru
enw etholaeth Seneddol y DU os yw’r cyfeiriad cartref mewn man arall yn y DU
y wlad os yw eu cyfeiriad cartref y tu allan i’r DU
y wybodaeth a gynhwysir yn natganiad o aelodaeth pleidiau gwleidyddol pob ymgeisydd, fel y’i rhoddwyd yn eu papurau enwebu
unrhyw bleidiau cofrestredig neu ymgeiswyr unigol nad ydynt yn ymgeiswyr enwebedig mwyach, os o gwbl (h.y. ymgeiswyr neu bleidiau annilys ac sydd wedi'u tynnu'n ôl), gyda'r rheswm pam nad ydynt yn sefyll mwyach
Manylion cyswllt ymgeisydd
Lle rydych chi wedi darparu eich manylion cyswllt e-bost neu ffôn i'r Swyddog Canlyniadau drwy'r ffurflen manylion cyswllt ymgeisydd, caiff y manylion hyn eu rhannu â'r heddlu i'w galluogi i roi unrhyw ddiweddariadau neu gyngor penodol ar ganllawiau diogelwch i chi ar gyfer yr etholiadau hyn.
Bydd y manylion cyswllt hyn hefyd yn cael eu rhannu gyda Bwrdd Rheoli Etholiadau Cymru.