Cymorth gyda phleidleisio i bleidleiswyr anabl
Darparu cyfarpar yn yr orsaf bleidleisio sy'n galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hyn
Mae'r adran hon yn amlinellu'r wybodaeth i bleidleiswyr y mae'n rhaid ei darparu yn yr orsaf bleidleisio ynghyd â rhestr o gyfarpar rydym yn cynghori y dylid ei darparu mewn gorsafoedd pleidleisio i helpu i leihau neu ddileu rhwystrau hysbys a sicrhau bod y broses bleidleisio mor hygyrch â phosibl i bleidleiswyr anabl.
Mae hefyd yn cyfeirio at gyfarpar ychwanegol pellach y gall fod yn briodol ei ddarparu os byddwch yn nodi neu'n cael gwybod am anghenion penodol pleidleiswyr anabl.
Gwybodaeth i bleidleiswyr
Er mwyn helpu pleidleiswyr i ddeall y broses bleidleisio a sut i farcio eu papur pleidleisio, mae'n rhaid i chi ddarparu'r canlynol:
- Hysbysiad y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio sy'n rhoi cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio yn yr etholiad.1
- Hysbysiad ym mhob bwth pleidleisio sy'n rhoi gwybodaeth am sut i farcio'r papur pleidleisio yn yr etholiad.2
- Rhaid arddangos o leiaf un copi sampl mawr o'r papur pleidleisio y tu mewn i'r orsaf bleidleisio, yn ddelfrydol mewn man â digon o olau lle y gall pleidleiswyr ei weld yn hawdd cyn cael eu papur pleidleisio.3 Bydd arddangos sampl o bapurau pleidleisio print mawr yn amlwg yn yr orsaf yn helpu pleidleiswyr sy'n rhannol ddall a phleidleiswyr a hoffai gael rhywfaint o amser i edrych ar y papur pleidleisio cyn mynd i mewn i'r bwth.
- Copi llaw wedi'i chwyddo o'r papur pleidleisio. Gall pleidleiswyr sy'n rhannol ddall fynd â hwn gyda nhw i'r bwth pleidleisio er mwyn cyfeirio ato wrth farcio eu papur pleidleisio neu ar gais i unrhyw bleidleisiwr arall os byddai'n ddefnyddiol iddynt.
Mae'n rhaid i chi ystyried a yw'n briodol gwneud hysbysiadau'n fwy hygyrch i amrywiaeth ehangach o bleidleiswyr4 drwy eu darparu mewn ieithoedd a fformatau amgen, e.e. mewn Braille, mewn ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg, ar ffurf darluniau5 neu ar ffurf sain.6 Mae Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth wedi cynnwys canllawiau ar ei wefan am sicrhau bod deunydd sy'n cael ei gyfathrebu yn hygyrch.
Yn ogystal â bodloni'r gofynion statudol gofynnol a nodir uchod, dylech hefyd sicrhau bod unrhyw gopïau sampl ychwanegol a chopïau wedi'u chwyddo o'r adnoddau papur pleidleisio ar gael yn rhwydd ac yn weladwy yn yr orsaf bleidleisio – bydd sicrhau y gellir eu gweld yn rhwydd a'u bod wedi'u marcio'n glir yn golygu eu bod yn hygyrch i bleidleiswyr.
Cyfarpar i helpu pleidleiswyr i gymryd rhan
Mae dyletswydd arnoch i ddarparu i bob gorsaf bleidleisio unrhyw gyfarpar y mae’n rhesymol ei ddarparu at ddibenion galluogi pobl berthnasol i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hyn.7
Mae gennym ddyletswydd i roi arweiniad mewn perthynas â'ch dyletswydd i ddarparu'r cyfarpar hwn.8
Mae'n rhaid i chi gadw'r canllawiau hyn mewn cof wrth gyflawni eich dyletswydd i ddarparu cyfarpar priodol ond, yn y pen draw, eich lle chi fel Swyddog Canlyniadau yw penderfynu ar y trefniadau a'r cyfarpar sy'n rhesymol er mwyn galluogi pleidleiswyr anabl yn eich ardal i fwrw eu pleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol neu i'w gwneud yn haws iddynt wneud hyn.
Nod y canllawiau hyn yw eich cefnogi drwy dynnu sylw at y mathau o gyfarpar a all helpu i ddileu rhwystrau i bleidleisio i bleidleiswyr anabl. Gall ffactorau sy'n unigryw i'ch ardal leol – o ran maint a graddfa gorsafoedd pleidleisio, neu ofynion penodol eich etholaeth leol – lywio'r dull y byddwch yn penderfynu ei gymryd.
Dylai penderfyniadau ynghylch cyfarpar priodol fod wedi'u hystyried yn ofalus, dylent fod yn dryloyw a dylid eu hadolygu'n rheolaidd. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn Gwneud penderfyniadau ynghylch darparu cymorth a chyfarpar ychwanegol i bleidleiswyr
Rhoddir cyllid ychwanegol i chi gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i gefnogi'r gwaith o gynnal etholiadau hygyrch. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi manylion a chanllawiau ar sut y bydd y cyllid ar gael, gan gynnwys ar gyfer digwyddiadau pleidleisio cenedlaethol.
Drwy ein gwaith gyda sefydliadau cymdeithas sifil ac elusennau, rydym wedi nodi amrywiaeth o gyfarpar a all helpu i oresgyn y rhwystrau hysbys a wynebir gan bobl anabl. Mae llawer o'r eitemau hyn ar gael yn hawdd, heb gostio llawer, a gallant gael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar brofiad pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio. Fel gofyniad sylfaenol, dylai'r cyfarpar canlynol gael ei ddarparu ym mhob gorsaf bleidleisio er mwyn cefnogi pleidleiswyr anabl:
- Cadair/rhywle i eistedd – mae hyn yn cynnig lle i bleidleiswyr orffwys os na allant sefyll am gyfnodau hir a sedd i bleidleiswyr a hoffai dreulio ychydig o amser yn meddwl cyn mynd i mewn i'r bwth pleidleisio.
- Chwyddwydrau – gall y rhain roi cymorth i bleidleiswyr sydd â nam ar eu golwg bleidleisio'n annibynnol drwy gynyddu maint y testun sydd ar ddogfen. Bydd y cryfder sydd ei angen ar chwyddwydr yn amrywio yn dibynnu ar faint o olwg sydd gan bleidleisiwr. Efallai y bydd angen i chi ddarparu mwy na chwyddwydr un cryfder yn dibynnu ar anghenion y pleidleisiwr mewn gorsaf bleidleisio benodol.
- Dyfais bleidleisio gyffyrddadwy – Mae dyfeisiau pleidleisio cyffyrddadwy yn helpu pleidleiswyr sydd â nam ar eu golwg i farcio eu pleidlais ar y papur pleidleisio yn y lle cywir, os bydd wedi'i leoli ar y papur pleidleisio'n gywir. Gwelwyd eu bod yn rhoi cymorth i gwblhau'r papur pleidleisio unwaith y bydd pleidleiswyr sydd â nam ar eu golwg yn gwybod y safle ar y papur pleidleisio neu'r ymgeisydd y maent am bleidleisio drosto. Nid ydynt yn galluogi pleidleiswyr dall i bleidleisio'n annibynnol oni fydd hefyd ganddynt wybodaeth am drefn yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio.
- Bwth pleidleisio ar lefel cadair olwyn – mae hwn yn helpu i sicrhau y gall pleidleiswyr sy'n defnyddio cadair olwyn gyrraedd arwyneb ysgrifennu is fel y gallant fwrw eu pleidlais yn gyfrinachol mewn bwth hygyrch.
- Bathodynnau ar gyfer adnabod staff gorsafoedd pleidleisio – mae'r rhain yn helpu pleidleiswyr i nodi'n haws pwy sy'n aelod o staff yn yr orsaf bleidleisio ac felly y gallant ofyn iddo am gymorth. Gellir teilwra'r math o fathodyn a thestun a ddefnyddir i amgylchiadau lleol unigol. Er enghraifft, gallech roi bathodyn i staff gorsafoedd pleidleisio sy'n nodi eu henw cyntaf ac yn egluro eu rôl a'u bod yn hapus i helpu.
- Darn gafael ar gyfer pensil – gall y rhain helpu pleidleiswyr sydd â namau medrusrwydd i afael mewn pensil a'i ddefnyddio'n annibynnol.
- Rampiau (ar gyfer adeiladau â grisiau) – mae'r rhain yn cefnogi mynediad i orsaf bleidleisio ar gyfer pleidleiswyr sy'n defnyddio cadair olwyn neu sy'n ei chael hi'n anodd defnyddio grisiau.
- Teclynnau tynnu sylw dros dro neu glychau drws dros dro ar gyfer unrhyw ddrysau y mae angen eu cadw ar gau yn ystod y dydd (er enghraifft, drysau tân) – mae'r rhain yn galluogi pleidleiswyr i roi gwybod i staff yr orsaf bleidleisio fod angen cymorth arnynt i agor y drws fel y gallant fynd i mewn i'r orsaf bleidleisio. Nid oes angen i'r rhain fod wedi'u gosod yn barhaol na bod wedi'u gosod mewn adeilad a ddefnyddir fel gorsaf bleidleisio ond gellir eu gosod dros dro ar lefel hygyrch ar fwrdd neu gadair wrth unrhyw ddrysau y mae'n rhaid iddynt gael eu cadw ar gau.
- Goleuadau priodol – mae golau da mewn rhai gorsafoedd pleidleisio ond mae angen goleuadau ychwanegol wrth y ddesg mewn rhai eraill, i sicrhau y gall pleidleiswyr weld wynebau'r staff yn glir; ac yn y bythau pleidleisio, er mwyn helpu pleidleiswyr sydd â nam ar eu golwg i allu darllen a chwblhau'r papur pleidleisio.
- Lleoedd parcio ar gyfer pleidleiswyr anabl (os bydd lleoedd parcio ar gael yn y lleoliad) – mae hyn yn sicrhau y gall pleidleiswyr anabl barcio mor agos i'r orsaf bleidleisio â phosibl.
Nid y cyfarpar a ddangosir yn y rhestr uchod yw'r unig gyfarpar y gallwch ei ddarparu ac ni ddylech leihau na symud unrhyw gyfarpar rydych wedi'i ddarparu i gefnogi pleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio yn eich ardal.
Ceir cyfarpar arall y gall fod yn briodol ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio lle rydych wedi gallu nodi a fyddai'n galluogi pleidleiswyr dall, rhannol ddall neu anabl i bleidleisio'n anabl ac yn gyfrinachol neu i'w gwneud yn haws iddynt wneud hyn. Ymysg yr enghreifftiau o gyfarpar arall y gallech ei ddarparu mae:
- Dolen sain – mae'r rhain yn helpu pleidleiswyr sy'n gwisgo cymhorthion clywed i gyfathrebu yn yr orsaf bleidleisio. Mae dolen sain wedi'i gosod fel mater o drefn mewn rhai adeiladau ac, os felly, dylech ei defnyddio. Os nad yw hyn ar gael, gellid defnyddio dolen sain gludadwy.
- Dyfeisiau sain – darnau o gyfarpar sy'n atgynhyrchu, yn recordio neu'n prosesu sain yw'r rhain. Gellir defnyddio dyfais sain ar y cyd â'r ddyfais bleidleisio gyffyrddadwy gan alluogi pleidleiswyr sy'n ddall neu'n rhannol ddall i wrando ar restrau o ymgeiswyr ac yna farcio eu papur pleidleisio yn annibynnol.
- Gwybodaeth mewn fformat hawdd ei ddeall – mae hyn yn cyfeirio at gyflwyno testun mewn fformat hygyrch sy'n hawdd ei ddeall. Yn aml bydd y fformat hwn yn ddefnyddiol i bobl ag anableddau dysgu, a gall fod yn fuddiol i bobl sydd â chyflyrau eraill sy'n effeithio ar sut maent yn prosesu gwybodaeth hefyd.
- Gwybodaeth mewn fformatau print bras – caiff print bras ei ddiffinio fel 16pt Arial neu fwy ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau print clir sy'n ymwneud â chynllun, defnydd o ffontiau a delweddau. Mae'n aml yn ddefnyddiol i bleidleiswyr sydd â nam ar eu golwg a gall hefyd fod yn fuddiol i bleidleiswyr oedrannus, pleidleiswyr dyslecsig a phleidleiswyr sydd â dementia.
Dylid cadw'r cyfarpar a'r adnoddau rydych yn eu darparu i bleidleiswyr anabl yng ngolwg pawb ac wedi'i farcio'n glir fel y gellir ei adnabod a'i gyrraedd yn hawdd.
- 1. Atodlen 1, rheol 29(4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; Rheol 26(4) Atodlen 5 Deddf Cyfraith Etholiadol (Gogledd Iwerddon) 1962 – hysbysiad penodedig ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1, rheol 29(5) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; Rheol 26(4) Atodlen 5 Deddf Cyfraith Etholiadol (Gogledd Iwerddon) 1962 – hysbysiad penodedig ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1, rheol 29(3A)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; Rheol 26(3A(a)) Atodlen 5 Deddf Cyfraith Etholiadol (Gogledd Iwerddon) 1962 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. a.199B(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; mae a.199B o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 yn gymwys i Ogledd Iwerddon yn unol ag a.2 Gorchymyn Deddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (Cychwyn Rhif 7) 2008 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. a.199B (2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; mae a.199B o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 yn gymwys i Ogledd Iwerddon yn unol ag a.2 Gorchymyn Deddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (Cychwyn Rhif 7) 2008 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. a.199B (3) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; mae a.199B o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 yn gymwys i Ogledd Iwerddon yn unol ag a.2 Gorchymyn Deddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (Cychwyn Rhif 7) 2008 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheol 29(3A)(b) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (fel y'i diwygiwyd gan a.9 Deddf Etholiadau 2022). ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 9 (8), Deddf Etholiadau 2022 ↩ Back to content at footnote 8