Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd

| Argraffu'r canllawiau llawn

Agor pleidleisiau post

Pwy all fynd i’r sesiwn agor pleidleisiau post?

Mae gan y bobl ganlynol yr hawl i fynd i’r sesiwn agor pleidleisiau post a ddychwelwyd:1

  • Ymgeiswyr rhestr plaid ac ymgeiswyr unigol
  • Asiant etholiad ymgeisydd unigol neu unigolyn a benodwyd gan yr ymgeisydd unigol i fynd yn lle’r asiant etholiad
  • Asiant etholiad rhestr plaid neu unigolyn a benodwyd gan y Swyddog Enwebu i fynd yn lle’r asiant etholiad
  • Asiantiaid pleidleisio drwy'r post yr ydych wedi’u penodi i fynd i’r sesiynau agor. 

Am fanylion ynghylch sut i benodi’r asiantiaid hyn, gweler ein canllawiau ar benodi asiantiaid pleidlais bost.  

Dyletswydd i gynnal cyfrinachedd yn ystod sesiynau agor pleidleisiau post

Cedwir papurau pleidleisio yn wynebu tuag at i lawr drwy gydol sesiwn agor pleidleisiau post.2  Ni ddylai unrhyw un sy’n mynd i’r sesiwn agor:3

  • gael
  • ceisio cael
  • cyfathrebu â pherson arall ar unrhyw adeg:
    • unrhyw wybodaeth yn ymwneud â'r rhif neu unrhyw farc adnabod unigryw arall ar y papur pleidleisio
    • unrhyw wybodaeth am y marc swyddogol ar bapur pleidleisio drwy'r post cyn diwedd y pleidleisio
  • datgelu sut mae unrhyw bapur pleidleisio penodol wedi cael ei farcio neu drosglwyddo unrhyw wybodaeth a gafwyd o’r sesiwn.

Felly yn sgil hynny, ni chaniateir cadw cyfrif o sut mae papurau pleidleisio wedi cael eu marcio.

Gall unrhyw un a’u cafwyd euog o dorri’r gofynion hyn wynebu dirwy ddigyfyngiad, neu gallant gael eu carcharu am hyd at chwe mis.4

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Mawrth 2026