Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd

| Argraffu'r canllawiau llawn

Penodi asiantiaid pleidleisio drwy'r post

Gall asiant etholiad rhestr plaid ac unrhyw ymgeiswyr unigol hefyd benodi asiantiaid i fynd i sesiynau agor pleidleisiau post.1

Gellir penodi unrhyw un, ar wahân i’r bobl ganlynol a restrir isod, yn asiant pleidleisiau post:2

  • Swyddog Canlyniadau neu aelod o’i staff
  • partner neu glerc y Swyddog Canlyniadau neu aelod o’i staff
  • unrhywun un nad oes ganddo’r hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiad neu euogfarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

Gall asiantiaid etholiad i restrau plaid ac ymgeiswyr unigol weithredu fel asiantiaid pleidleisio drwy'r post yn awtomatig heb yr angen am benodiad swyddogol.

Bydd y Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy yn rhoi gwybod i chi'r uchafswm asiantiaid pleidlais bost y gellir eu penodi. Bydd asiantiaid etholiad i restrau plaid ac ymgeiswyr unigol yn cael penodi union yr un nifer.3

Rhaid i’r cais i benodi’r asiantiaid hyn gael ei wneud yn ysgrifenedig i’r Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy a rhaid iddo gynnwys enwau a chyfeiriadau’r bobl sy’n cael eu penodi.4 Gall y Swyddog Canlyniadau ddarparu ffurflenni y gallwch eu defnyddio ar gyfer hyn, neu gallwch ddod o hyd i ffurflenni penodi asiantiaid pleidleisio drwy'r post ar wefan y Comisiwn. 

Mae angen cyflwyno ffurflenni penodi ar gyfer asiantiaid pleidleisio drwy'r post i’r Swyddog Canlyniadau neu ddirprwy erbyn yr amser a bennwyd ar gyfer sesiynau agor pleidleisiau post y maent am fynd iddyn nhw.5

Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i chi cyn dechrau pob sesiwn agor pleidleisiau post.6

Os yw asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, gellir penodi asiant arall yn ei le. Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.7

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall ac na all asiantiaid pleidlais bost ei wneud a’r hyn y gallant ddisgwyl ei weld mewn sesiynau agor pleidleisiau post, gweler ein harweiniad ynghylch yr hyn mae asiant pleidlais bost yn ei wneud a chamau’r broses o agor pleidleisiau post

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Mawrth 2026