Ffurflenni y dylid eu hanfon i'r Comisiwn Etholiadol
Rhaid i chi anfon copïau heb eu golygu o holl ffurflenni a datganiadau ymgeiswyr a gewch ymlaen i'r Comisiwn.Gall y Comisiwn hefyd ofyn i chi ddarparu copïau o anfonebau a derbynebau ar gais1
.
Anfonwch gopïau PDF dros e-bost i [email protected]. Bydd o gymorth mawr i ni wrth brosesu ffurflenni gwariant a anfonwyd drwy e-bost, ac er mwyn osgoi ymholiadau gennym i chi, os byddwch yn gwneud y canlynol:
sganio pob ffurflen ar wahân
anfon pob ffurflen drwy e-bost ar wahân, oherwydd caiff atodiadau mawr iawn eu gwrthod gan ein gweinydd
nodi'r etholiad ac enw'r ymgeisydd yn llinell bwnc yr e-bost
peidio â diogelu negeseuon e-bost â chyfrineiriau na darparu cyfrineiriau na gwefannau diogel – mae e-bost arferol yn iawn
peidio ag anfon anfonebau cysylltiedig na dogfennau ategol eraill – byddwn yn gofyn am y rhain os bydd eu hangen arnom
Os na allwch anfon copïau PDF drwy e-bost atom, gallwch anfon copïau papur o'r ffurflenni i'r cyfeiriad canlynol:
Political Finance and Regulation
The Electoral Commission
3 Bunhill Row
London
EC1Y 8YZ