Guidance for the GLRO administering the GLA elections

| Argraffu'r canllawiau llawn

Gofynion anerchiadau etholiadol

Rhaid i'r anerchiad etholiadol:1

  • gael ei gyflwyno i chi erbyn y dyddiad cau rydych wedi'i gyhoeddi ac ar y ffurf a ragnodir
  • cynnwys datganiad sy'n nodi iddo gael ei baratoi gan asiant etholiad yr ymgeisydd
  • cynnwys enw a chyfeiriad yr asiant etholiadol 
  • cael ei gwblhau yn Gymraeg neu yn Saesneg
  • cael ei gyflwyno ar ffurf electronig oni bai eich bod yn fodlon bod rheswm da dros ei gyflwyno ar ffurf copi caled 
  • nodi enw'r ymgeisydd
  • cynnwys mater sy'n ymwneud â'r etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn unig
    cydymffurfio â'r gofynion fformatio a nodir yn y ffurf a ragnodir
  • cydymffurfio â'r cyfryw ofynion eraill ag a bennir gan y Gweinidog gyda'r bwriad o hwyluso'r broses o'i gynnwys ar y wefan 
  • gallu cael ei gynhyrchu ar ffurf copi caled

Ni ddylai'r anerchiad etholiadol:2

  • gynnwys unrhyw ddeunydd hysbysebu (heblaw am ddeunydd sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd fel ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu)
  • cynnwys unrhyw ddeunydd sy'n cyfeirio at unrhyw ymgeisydd arall er mwyn sefyll etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • cynnwys unrhyw ddeunydd sydd wedi'i gynnwys gyda'r nod o sicrhau manteision masnachol yn eich barn chi
  • cynnwys unrhyw ddeunydd sy'n sarhaus neu'n anweddus yn eich barn chi
  • cynnwys unrhyw ddeunydd y byddai'n debygol o fod yn gyfystyr â chyflawni trosedd pe câi ei gyhoeddi neu ei ddosbarthu yn eich barn chi
  • bod yn fwy na'r terfyn o 300 o eiriau a nodwyd yn y ffurf a ragnodir (mae datganiad, enw a chyfeiriad yr asiant yn cyfrif at y terfyn o 300 o eiriau)

Gall yr asiant etholiad:3

  • wrth gyflwyno anerchiad etholiadol hefyd gyflwyno cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg (fel y bo'n briodol) sy'n gyfieithiad cyflawn a chywir (nid yw'r terfyn o 300 o eiriau yn gymwys i'r cyfieithiad hwn)
  • cynnwys ffotograff o'r ymgeisydd ar yr amod nad yw'n dangos neb arall heblaw'r ymgeisydd ac nad yw'r mynd yn groes i'r rhestr uchod o ddeunydd na ddylai'r anerchiad ei gynnwys
  • cynnwys cynrychioliad o arwyddlun cofrestredig, neu (fel y bo'n briodol) un o arwyddluniau, plaid wleidyddol gofrestredig, os caiff yr anerchiad etholiadol ei baratoi ar ran ymgeisydd plaid awdurdodedig 
  • pan gaiff anerchiad etholiadol ei baratoi ar ran ymgeisydd plaid awdurdodedig, gynnwys disgrifiad cofrestredig neu, os yw'r ymgeisydd wedi'i awdurdodi gan ddwy blaid neu fwy, ddisgrifiad cofrestredig ar y cyd 
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2023