Guidance for the GLRO administering the GLA elections

| Argraffu'r canllawiau llawn

Camgymeriadau ar bapurau enwebu

Yn dibynnu ar eich pŵer i gywiro mân wallau, ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i bapur enwebu unwaith y bydd wedi cael ei gyflwyno'n ffurfiol.  

Cywiro mân wallau

Mae'r wybodaeth yn yr adran hon yn esbonio sut i ymdrin â mân wallau a rhaid i chi gadw hyn mewn cof.1  

Yn ôl y gyfraith, cewch gywiro mân wallau a wneir ar ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref unrhyw bryd cyn i chi gyhoeddi'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd.2  

Dylech geisio cysylltu â'r ymgeisydd neu'r asiant cyn diwygio unrhyw fân wallau.3

Mae'r tabl hwn yn nodi rhai o'r mân wallau y gellir eu cywiro a chanllawiau ynghylch arfer eich pŵer i gywiro mân wallau. Dylech gysylltu â ni am gyngor wrth ystyried cywiro mân wallau.  

Math o wall Canllawiau
Gwallau mewn rhifau etholwyr     Pan fydd rhif etholwr wedi'i nodi'n anghywir, gallwch ei ddiwygio os ydych yn fodlon bod gwall wedi'i wneud. Fodd bynnag, pan fydd y rhif etholwr wedi'i hepgor yn llwyr, nid yw hyn yn cyfrif fel gwall, a dylid pennu bod y ffurflen enwebu yn annilys ar y sail nad yw'r rhif wedi'i ddarparu.
Gwallau sillafu amlwg ym manylion yr ymgeisydd Dylid cymryd gofal wrth arfer y pŵer hwn – mae'n bosibl na fydd pawb yn cyd-weld o ran yr hyn a ystyrir yn wall sillafu amlwg.
Gwallau mewn cyfeiriad cartref Pan na fydd cyfeiriad cartref yn hollol gywir efallai na fydd angen ei gywiro. Yn ôl y gyfraith, nid yw gwallau mewn cyfeiriad cartref yn effeithio ar ddilysrwydd ffurflen enwebu, cyhyd ag y gellir deall y cyfeiriad yn gyffredin.
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2023