Yn amodol ar eich pŵer i gywiro mân wallau, ni ellir gwneud newidiadau i bapur enwebu ar ôl iddo gael ei gyflwyno’n ffurfiol.1
Cywiro mân wallau
Mae'r wybodaeth yn yr adran hon yn egluro sut i ddelio â mân wallau ac mae’n rhaid ichi ystyried hyn.2
Gallwch chi, yn ôl y gyfraith, gywiro mân wallau a wnaed ar ffurflenni cyfeiriad cartref neu enwebu unrhyw bryd cyn i chi gyhoeddi'r datganiad ynghylch y personau a phleidiau a enwebwyd.3
Dylech geisio cysylltu â Swyddog Enwebu’r blaid mewn achos o restr plaid, neu'r ymgeisydd unigol neu’r asiant, cyn cywiro mân wall.
Mae’r tabl hwn yn nodi rhai o’r mân wallau y gellir eu cywiro a chanllawiau ar arfer eich pŵer i gywiro mân wallau. Dylech gysylltu â ni am gyngor wrth ystyried cywiro mân wallau.
Math o wall
Arweiniad
Gwallau sillafu amlwg ym manylion yr ymgeisydd
Dylid bod yn ofalus wrth arfer y pŵer hwn – efallai nad yw’r hyn sy’n amlwg i un person yn amlwg i berson arall.
Cyfeiriad cartref gwallus
Os nad yw cyfeiriad cartref yn hollol gywir, efallai nad oes angen gwneud cywiriad. Yn ôl y gyfraith, nid yw gwallau mewn cyfeiriad cartref yn effeithio ar swyddogaeth lawn ffurflen enwebu, cyhyd â bod modd deall y cyfeiriad yn gyffredinol.4