Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol: 421 Cymru
Yn y rhifyn hwn
- Cofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig yng Nghymru
- Canllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol – Ceisiadau Pleidleisio Absennol Ar-lein
- Ffurflenni pleidlais absennol newydd
- Adnoddau i hysbysu pleidleiswyr am newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2027
Cofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig yng Nghymru
Mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Diwygio Etholiadol) (Cymru) 2026 bellach wedi cael eu cymeradwyo gan y Senedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y Rheoliadau yn cael eu gwneud heddiw ac y byddant yn dod i rym yfory.
Hoffem atgoffa Swyddogion Cofrestru Etholiadol bod ein canllawiau Cofrestru Etholwyr yn Awtomatig ar gael i gefnogi gweithredu.
Fel y nodwyd yn flaenorol ym Mwletin Gweinyddiaeth Etholiadol 419, mae cyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn golygu bod yn rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru:
- ymgymryd ag ymarfer paru data i nodi etholwyr heb eu cofrestru o leiaf unwaith y flwyddyn
- anfon hysbysiad cofrestru at yr etholwyr heb eu cofrestru hynny a nodwyd, gan roi cyfnod hysbysu o 28 diwrnod iddynt lle gallant ddewis peidio â chymryd rhan yn y cofrestriad awtomatig am resymau rhagnodedig
- ychwanegu’r etholwyr heb eu cofrestru hynny nad ydynt wedi dewis peidio â chymryd rhan at y gofrestr llywodraeth leol gyda marc J, ar ôl i’r cyfnod hysbysu o 28 diwrnod ddod i ben.
Er mwyn bodloni’r gofynion, rhaid i’r broses paru data ddechrau cyn diwedd pob blwyddyn galendr. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddechrau’r broses cyn diwedd 2026.
Mae ein canllawiau Cofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig ar gael i gefnogi'r gwaith o'u rhoi ar waith, ac maent newydd gael eu diweddaru yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y dylid ychwanegu etholwyr a nodwyd at y gofrestr llywodraeth leol ar ôl i'r cyfnod hysbysu o 28 diwrnod ddod i ben.
Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn egluro'r canlynol:
- Os daw'r cyfnod hysbysu o 28 diwrnod i ben cyn y dyddiad cau ar gyfer cael eu cynnwys yn yr hysbysiad misol nesaf o newid, caiff etholwyr eu hychwanegu yn y diweddariad misol hwnnw.
- Os daw'r cyfnod hysbysu i ben ar ôl y dyddiad cau hwnnw, cânt eu hychwanegu yn hysbysiad misol y mis canlynol o newid.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y canllawiau wedi’u diweddaru, neu os oes angen cymorth pellach arnoch, cysylltwch â thîm Cymru yn [email protected]
Canllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol – Ceisiadau Pleidleisio Absennol Ar-lein
Yn dilyn y dyddiad ‘lansio’ ddoe ar gyfer ceisiadau pleidlais absennol ar-lein yng Nghymru, hoffem eich atgoffa o Fwletin Gweinyddiaeth 416 a’n canllawiau trosiannol ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol.
Roedd y canllawiau trosiannol yn ymdrin â:
- y gwahaniaethau yn y trefniadau pleidleisio absennol presennol yr oedd angen eu datrys
- y camau gweithredu sy’n ofynnol i gywiro, tynnu neu alinio cofnodion erbyn 3 Tachwedd 2026
- y camau gweithredu i’w cymryd cyn gynted ag y bo modd ar ôl 3 Tachwedd 2026 i ddiweddaru cofnodion a hysbysu etholwyr
Canllawiau pleidleisio absennol wedi’u diweddaru
Yn dilyn y cychwyn, rydym bellach wedi diweddaru ein canllawiau pleidleisio absennol ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol i adlewyrchu’r trefniadau newydd a ddaeth i rym ar 3 Tachwedd 2026.
Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru yn ymdrin â:
- argaeledd ceisiadau pleidlais absennol ar-lein ar gyfer pob etholiad
- y gofyniad i bob cais am bleidlais absennol gynnwys rhif Yswiriant Gwladol, neu ffurf arall gymeradwy o ddilysu hunaniaeth
- y cyfnod uchaf newydd o dair blynedd ar gyfer trefniadau pleidleisio drwy’r post newydd
Er bod y rheolau newydd a’r canllawiau newydd bellach yn eu lle, mae’r canllawiau trosiannol hefyd yn ymdrin â gweithgareddau dilynol, gan gynnwys diweddaru cofnodion a hysbysu etholwyr lle bo angen.
Byddwn yn cadw’r canllawiau trosiannol hyn tan 31 Ionawr 2027 i gefnogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol wrth iddynt gwblhau unrhyw gamau gweithredu sy’n weddill ar ôl eu rhoi ar waith.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen cymorth pellach arnoch, cysylltwch â thîm Cymru yn [email protected].
Ffurflenni pleidlais absennol newydd
Fel yr amlinellir yn y Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol: 419, rydym wedi diweddaru ein ffurflenni cais am bleidlais bost a phleidlais drwy ddirprwy i adlewyrchu’r rheolau newydd a chyflwyno ceisiadau ar-lein ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau cynghorau lleol, a ddaeth i rym ar 3 Tachwedd 2026.
Mae’r ffurflenni wedi’u diweddaru bellach ar gael ar dudalennau Pleidleisio drwy’r post a Pleidleisio drwy ddirprwy ein gwefan. Mae templedi hefyd wedi cael eu rhannu â chyflenwyr EMS a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i gefnogi integreiddio â Phorth y Swyddogion Cofrestru Etholiadol.
Adnoddau i hysbysu pleidleiswyr am newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
Mae adnoddau diweddaraf ar gyfer pleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy bellach ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Mae'r rhain yn adlewyrchu'r rheolau newydd megis ceisiadau ar-lein newydd ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau cyngor lleol.
Dewch o hyd i'n hadnoddau diweddaraf ar ein gwefan, sy'n cynnwys:
- posteri
- taflenni
- cwestiynau cyffredin i'r wasg
- graffeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a phostiadau templed
- baneri y we
- copi templed ar gyfer gwefannau a chylchlythyrau
Gallwch ddod o hyd i ragor o adnoddau i gefnogi ymgysylltiad democrataidd ar ein gwefan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein hadnoddau, cysylltwch â [email protected]
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2027
Mae Wythnos Croeso i Dy Bleidlais yn dychwelyd ar gyfer 2027, mae’n digwydd rhwng 8 Mawrth – 14 Mawrth, ac rydych chi wedi eich gwahodd i gymryd rhan.
Beth yw Wythnos Croeso i Dy Bleidlais?
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais yw wythnos codi ymwybyddiaeth flynyddol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer addysg ddemocrataidd.
Mae’n gyfle i ysgolion, grwpiau ieuenctid ac unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc ddathlu democratiaeth a dysgu am ddemocratiaeth, pleidleisio ac etholiadau.
Mae llawer o ffyrdd i gymryd rhan yn yr wythnos, o drefnu digwyddiad democratiaeth neu ymgyrch gofrestru gyda phobl ifanc yn eich ardal, i rannu gwybodaeth am bleidleisio ac etholiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Archwiliwch sut y cymerodd sefydliadau rhan yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais yn 2026
Byddwn yn rhannu’r holl wybodaeth ac adnoddau sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan yn yr wythnos ym mis Ionawr 2027 felly cofiwch gofrestru i’r rhestr bostio Wythnos Croeso i Dy Bleidlais i fod ymhlith y cyntaf i dderbyn hyn.
Byddwn hefyd yn cynnal gweminar ddydd Iau 26 Tachwedd 11am – 12pm. Bydd hwn yn gyfle i ddysgu mwy am yr wythnos a darganfod ffyrdd y gall eich sefydliad gymryd rhan. Cofrestrwch yma.
Edrychwch ar yr hyn a gyflawnwyd gyda’n gilydd yn 2026
Rydym yn amcangyfrif, yng Nghymru yn unig, bod Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026 wedi cyrraedd:
- 13,100+ o bobl ifanc
- 98+ o addysgwyr a phartneriaid
Ac ymhlith y rhai a gwblhaodd ein harolygon:
- Dywedodd 83% o bobl ifanc eu bod yn fwy tebygol o gofrestru i bleidleisio.
- Dywedodd 86% o addysgwyr fod hyder eu pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth wedi cynyddu.
Rydym am gyrraedd hyd yn oed ymhellach yn 2027 felly lledaenwch y neges am yr wythnos fel bod mwy o bobl ifanc yn derbyn yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i deimlo’n hyderus i gymryd rhan yn nemocratiaeth y DU.
Yn awyddus i ddechrau? Cymerwch olwg ar ein hystod o adnoddau addysgol sydd ar gael am ddim ar ein gwefan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at