| Argraffu'r canllawiau llawn

Ceisiadau ar-lein am bleidlais absennol – Camau gweithredu trosiannol

Mae'r adran hon yn cynnwys canllawiau ar y camau gweithredu trosiannol y bydd angen i chi eu cymryd i roi'r newidiadau a gyflwynwyd gan Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Absennol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 ar waith.

Mae'n cynnwys canllawiau ar y ddeddfwriaeth berthnasol ac yn disgrifio'r camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i ddatrys unrhyw anghysondebau yn y trefniadau pleidleisio absennol presennol.

Mae'r canllawiau hefyd yn egluro sut y bydd y camau gweithredu trosiannol hyn yn caniatáu i gofnodion presennol gael eu cydgyfeirio, gan alluogi defnyddio gwasanaeth digidol y DU ar gyfer ceisiadau am bleidlais absennol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Gorffennaf 2026