Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Papurau pleidleisio amheus

Er mwyn helpu Swyddogion Canlyniadau Lleol, rydym wedi llunio canllawiau ar sut i ddyfarnu pleidleisiau ar bapurau pleidleisio a all ymddangos yn amheus. Ceir y canllawiau hyn yn ein llyfryn Ymdrin â phapurau pleidleisio amheus. Rydym hefyd wedi llunio mat bwrdd papurau pleidleisioo bleidleisiau a ganiateir a rhai a wrthodir y gellir cyfeirio atynt yn gyflym.

 

 

Mae'r enghreifftiau a roddir yn y dogfennau hyn yn seiliedig ar reolau'r etholiad.

Noder, er eu bod yn darparu canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol, y Swyddog Canlyniadau Lleol unigol sy'n gyfrifol yn y pen draw am wneud penderfyniad ynghylch papurau pleidleisio unigol. Hefyd, efallai y bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu wedi rhoi canllawiau i'r Swyddogion Canlyniadau Lleol yn ardal yr heddlu er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson ar draws ardal yr heddlu.

Bydd penderfyniad y Swyddog Canlyniadau Lleol i wrthod papur pleidleisio penodol yn ystod y cyfrif neu'r ailgyfrif yn derfynol a dim ond ar ôl datgan y canlyniad y gellir ei adolygu mewn deiseb etholiadol. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddeisebau etholiadol.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ebrill 2024