Beth os nad yw'r bleidlais ar bapur pleidleisio yn glir?
Ni chaiff papur pleidleisio ei gyfrif:
os nad yw wedi ei farcio
os nad yw'n cynnwys y marc swyddogol
os yw'n cynnwys mwy nag un bleidlais
os nad yw'r pleidleisiwr wedi nodi ei ddewis yn gwbl sicr
os yw'n cynnwys unrhyw farc neu ysgrifen a all adnabod y pleidleisiwr
Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Lleol lunio datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd yn ei ardal bleidleisio am y rhesymau hyn.1
Os yw bwriad y pleidleisiwr yn glir ar bapur pleidleisio ac na all unrhyw farc neu ysgrifen ei enwi, ni fydd yn ddi-rym os yw pleidlais wedi ei marcio:
rywle arall yn hytrach na'r man priodol
mewn ffordd arall heblaw croes (e.e. tic)
mae'r bleidlais wedi'i marcio drwy fwy nac un marc
Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Lleol roi'r gair "gwrthodwyd" ar unrhyw bapur pleidleisio a wrthodir. Rhaid iddo ychwanegu'r geiriau "gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod" os yw asiant cyfrif yn gwrthwynebu penderfyniad y Swyddog Canlyniadau Lleol.2
I gael rhagor o fanylion am y broses o ddyfarnu papurau pleidleisio amheus, gweler ein canllawiau isod.