Gellir gwrthwynebu dilysrwydd unrhyw ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Bydd y cyfnod a ganiateir i wrthwynebu yn dibynnu ar bryd y cyflwynir y papurau enwebu.
Amserlen ar gyfer gwrthwynebiadau
Enwebiadau a gyflwynir hyd at ac yn cynnwys 4pm, 20 diwrnod gwaith cyn yr etholiad
Rhaid i wrthwynebiadau i unrhyw ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref a gyflwynir hyd at ac yn cynnwys 4pm, 20 diwrnod gwaith cyn yr etholiad gael eu gwneud rhwng 10am a hanner dydd, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 1
Enwebiadau a gyflwynir ar ôl 4pm, 20 diwrnod gwaith cyn yr etholiad
Rhaid i wrthwynebiadau i unrhyw ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref a gyflwynir ar ôl 4pm, 20 diwrnod gwaith cyn yr etholiad gael eu gwneud rhwng 10am a 5pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Rhaid i unrhyw wrthwynebiad gael ei wneud ar adeg cyflwyno'r enwebiad neu'n syth wedi hynny. 2
Penderfyniadau ynglŷn â gwrthwynebiadau
Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn ystyried unrhyw wrthwynebiadau a wneir, ond caiff benderfynu bod enwebiad yn annilys am y rhesymau canlynol yn unig: 3
nid yw manylion yr ymgeisydd neu'r llofnodwyr yn unol â gofynion y gyfraith
ni lofnodwyd y papur fel sy'n ofynnol
Bydd penderfyniad Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu fod enwebiad yn ddilys yn derfynol ac ni ellir ei herio yn ystod yr etholiad. Dim ond drwy ddeiseb etholiadol y gellir herio'r penderfyniad ar ôl etholiad 4
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddeisebau etholiadol.