Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cwblhau eich papurau enwebu

I gael eich enwebu fel ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, bydd angen i chi gyflwyno set o bapurau enwebu wedi'u cwblhau i'r man a nodwyd gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 1

Pennir y dyddiad cau hwn yn ôl y gyfraith ac ni ellir ei newid am unrhyw reswm. 

Nodir y dyddiad pan fyddwch yn gallu dechrau cyflwyno papurau enwebu, yn ogystal â'r amseroedd a'r man cyflwyno, yn yr hysbysiad etholiad a gyhoeddir gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. 2  

Rhaid i chi gyflwyno tri phapur enwebu er mwyn i'ch enwebiad fod yn ddilys: 3

Gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu benderfynu bod eich papur enwebu yn annilys os nad yw manylion eich enwebiad yn unol â gofynion y gyfraith.  Hefyd, gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu wrthod eich enwebiad os yw'n dod i'r casgliad ei fod yn un ffug, er enghraifft os rhoddir enw sy'n amlwg yn ffug.

Os na fyddwch chi, eich asiant neu rywun rydych yn ymddiried ynddo yn gallu cwblhau'r ffurflen enwebu, gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu eich helpu drwy baratoi'r ffurflen i chi ei llofnodi. 4

Efallai y gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu hefyd gynnig bwrw golwg anffurfiol dros eich papurau enwebu wedi'u cwblhau cyn i chi eu cyflwyno.  5  Dylech gael rhagor o wybodaeth gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu o ran a yw'n bwriadu cynnig gwiriadau anffurfiol.

Noder bod yn rhaid i unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi ar eich papurau enwebu fod yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth. Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich papurau enwebu. Gallai rhoi datganiad ffug annilysu eich etholiad, a gallech hefyd wynebu dirwy anghyfyngedig a/neu ddedfryd o garchar.

Ochr yn ochr â'ch papurau enwebu, rhaid i chi hefyd gyflwyno ernes o £5,000 i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ernesau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Tachwedd 2023