Cewch dynnu'n ôl fel ymgeisydd drwy lofnodi a chyflwyno hysbysiad tynnu enw yn ôl. 1
Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all gyflwyno'r hysbysiad, ond rhaid gwneud hynny'n bersonol. Rhaid i rywun arall dystio llofnodi'r hysbysiad tynnu enw yn ôl, a rhaid iddo hefyd lofnodi'r hysbysiad. Gellir cael hysbysiad tynnu enw yn ôl gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu neu gellir ei lawrlwytho o'n gwefan.
Os ydych y tu allan i'r DU ac am dynnu'n ôl, gall eich cynigydd lofnodi'r hysbysiad tynnu enw yn ôl ar eich rhan a rhaid cyflwyno datganiad ysgrifenedig wedi'i lofnodi gan eich cynigydd yn cadarnhau eich absenoldeb gyda'r hysbysiad.
Rhaid i'r hysbysiad tynnu enw yn ôl gael ei gyflwyno i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn y man cyflwyno papurau enwebu erbyn y dyddiad cau ar gyfer tynnu'n ôl, sef 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu'n ôl, nid yw'n bosibl tynnu'n ôl o'r etholiad, a bydd eich enw yn ymddangos ar y papur pleidleisio. Os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad, cewch eich ethol.
Os byddwch yn tynnu'n ôl fel ymgeisydd, ad-delir eich ernes.