Dim ond rhai pobl a gaiff fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu ac archwilio a gwrthwynebu dilysrwydd ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref. 1
Ar ôl i chi gyflwyno eich papurau enwebu a'ch ernes a'ch bod wedi eich enwebu'n ddilys, caiff y canlynol archwilio a gwrthwynebu ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref:
chi
eich asiant etholiad
eich cynigydd neu eilydd
os mai chi yw eich asiant etholiad, rhywun a enwebwyd gennych i fod yn bresennol ar eich rhan
Os mai chi yw eich asiant etholiad, cewch benodi rhywun arall i fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu a gwrthwynebu ar eich rhan.
Os ydych wedi cyflwyno mwy nag un ffurflen enwebu, dim ond y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a ddewiswyd gennych a gaiff fod yn bresennol. Os na ddewiswyd un, y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a gyflwynwyd gyntaf a gaiff wneud hynny.
Ni chaiff neb arall archwilio papurau enwebu ar unrhyw adeg.
Yn ogystal â'r sawl a restrir uchod, caiff cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ac un unigolyn arall a ddewisir gan bob ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu, ond ni chânt eu harchwilio na'u gwrthwynebu.
Ni chaiff neb arall, heblaw am Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu a'i staff, fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu.